Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 21:14-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. “Ac yn awr, fab dyn, proffwyda,a thrawa dy ddwylo yn erbyn ei gilydd;chwifier y cleddyf ddwywaith a thair—cleddyf i ladd ydyw,cleddyf i wneud lladdfa fawr,ac y mae'n chwyrlïo o'u hamgylch.

15. Er mwyn i'w calon doddi,ac i lawer ohonynt syrthio,yr wyf wedi gosod cleddyf dinistrwrth eu holl byrth.Och! Fe'i gwnaed i ddisgleirio fel mellten,ac fe'i tynnir i ladd.

16. Tro'n finiog i'r dde ac i'r chwith,i ble bynnag y pwyntia dy flaen.

17. Byddaf finnau hefyd yn taro fy nwylo,ac yna'n tawelu fy llid.Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.”

18. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

19. “Yn awr, fab dyn, noda ddwy ffordd i gleddyf brenin Babilon ddod, a'r ddwy yn arwain o'r un wlad, a gosod fynegbost ar ben y ffordd sy'n dod i'r ddinas.

20. Noda un ffordd i'r cleddyf ddod yn erbyn Rabba'r Ammoniaid, a'r llall yn erbyn Jwda a Jerwsalem gaerog.

21. Oherwydd fe oeda brenin Babilon ar y groesffordd lle mae'r ddwy ffordd yn fforchi, i geisio argoel; bydd yn bwrw coelbren â saethau, yn ymofyn â'i eilunod ac yn edrych ar yr afu.

22. Yn ei law dde bydd coelbren Jerwsalem, iddo roi gorchymyn i ladd, codi bonllef rhyfel, gosod peiriannau hyrddio yn erbyn y pyrth, codi esgynfa ac adeiladu gwarchglawdd.

23. Bydd yn ymddangos yn argoel twyllodrus i'r rhai sy'n deyrngar iddo, ond bydd ef yn dwyn eu trosedd i gof ac yn eu caethiwo.

24. Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd ichwi ddwyn eich trosedd i gof trwy eich gwrthryfel agored, ac amlygu eich pechodau yn y cyfan a wnewch, oherwydd i chwi wneud hyn, fe'ch caethiwir.

25. “A thithau, dywysog annuwiol a drygionus Israel, yr un y daeth ei ddydd yn amser y gosb derfynol,

26. fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Diosg y benwisg a thyn y goron; nid fel y bu y bydd; dyrchefir yr isel a darostyngir yr uchel.

27. Adfail! Adfail! Yn adfail na fu ei bath y gwnaf hi, nes i'r hwn a'i piau trwy deg ddod, ac imi ei rhoi iddo ef.

28. “Yn awr, fab dyn, proffwyda a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth yr Ammoniaid a'u heilun: Cleddyf! Cleddyf wedi ei dynnu i ladd, wedi ei loywi i ddifa ac i ddisgleirio fel mellten!

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 21