Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 18:6-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Nid yw'n bwyta yn uchelfeydd y mynyddoedd, nac yn edrych ar eilunod tŷ Israel; nid yw'n halogi gwraig ei gymydog, nac yn mynd at wraig yn ystod ei misglwyf.

7. Nid yw'n gorthrymu neb, ond y mae'n dychwelyd gwystl y dyledwr, ac nid yw'n lladrata; y mae'n rhoi bwyd i'r newynog a dillad am y noeth.

8. Nid yw'n rhoi ei arian ar log nac yn derbyn elw; y mae'n atal ei law rhag drygioni, ac yn gwneud barn gywir rhwng dynion a'i gilydd.

9. Y mae'n dilyn fy neddfau ac yn cadw'n gywir fy marnau; y mae'n ddyn cyfiawn, a bydd yn sicr o fyw,” medd yr Arglwydd DDUW.

10. “Bwriwch fod ganddo fab sy'n treisio ac yn tywallt gwaed, ac yn gwneud un o'r pethau hyn,

11. er na wnaeth ei dad yr un ohonynt. Y mae'n bwyta yn uchelfeydd y mynyddoedd, ac yn halogi gwraig ei gymydog;

12. y mae'n gorthrymu'r tlawd a'r anghenus ac yn lladrata; nid yw'n dychwelyd gwystl y dyledwr; y mae'n edrych ar eilunod ac yn gwneud ffieidd-dra;

13. y mae'n rhoi ei arian ar log ac yn derbyn elw. A fydd ef fyw? Na fydd! Am iddo wneud yr holl bethau ffiaidd hyn fe fydd yn sicr o farw, a bydd ei waed arno ef ei hun.

14. “Bwriwch fod gan hwnnw fab sy'n gweld yr holl ddrygioni a wnaeth ei dad; ac wedi iddo weld, nid yw'n ymddwyn felly.

15. Nid yw'n bwyta yn uchelfeydd y mynyddoedd, nac yn edrych ar eilunod tŷ Israel, nac yn halogi gwraig ei gymydog.

16. Nid yw'n gorthrymu neb, nac yn gofyn gwystl gan ddyledwr, nac yn lladrata; y mae'n rhoi bwyd i'r newynog a dillad am y noeth.

17. Y mae'n atal ei law rhag drygioni, ac nid yw'n cymryd llog nac elw; y mae'n cadw fy marnau ac yn dilyn fy neddfau. Ni fydd ef farw am drosedd ei dad, ond bydd yn sicr o fyw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 18