Hen Destament

Testament Newydd

Eseciel 18:21-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. “Os bydd y drygionus yn troi oddi wrth yr holl ddrygioni a wnaeth, yn cadw fy holl ddeddfau, ac yn gwneud barn a chyfiawnder, bydd yn sicr o fyw; ni fydd farw.

22. Ni chofir yn ei erbyn yr un o'i droseddau, ond oherwydd y cyfiawnder a wnaeth bydd fyw.

23. A wyf yn ymhyfrydu ym marw'r drygionus?” medd yr Arglwydd DDUW. “Onid gwell gennyf iddo droi o'i ffyrdd a byw?

24. Ond os bydd dyn cyfiawn yn troi o'i gyfiawnder, ac yn gwneud drygioni a'r holl bethau ffiaidd y mae'r dyn drygionus yn eu gwneud, a fydd ef fyw? Ni chofir yr un o'r pethau cyfiawn a wnaeth, ond am iddo fod yn anffyddlon a chyflawni pechodau, bydd farw.

25. “Eto fe ddywedwch, ‘Nid yw ffordd yr Arglwydd yn gyfiawn.’ Clywch hyn, dŷ Israel: A yw fy ffordd i yn anghyfiawn? Onid eich ffyrdd chwi sy'n anghyfiawn?

26. Os bydd dyn cyfiawn yn troi o'i gyfiawnder ac yn gwneud drygioni, bydd farw o'i achos; am y drygioni a wnaeth bydd farw.

27. Ond os bydd dyn drwg yn troi o'r drygioni a wnaeth ac yn gwneud barn a chyfiawnder, bydd yn arbed ei fywyd.

28. Am iddo weld, a throi oddi wrth yr holl droseddau y bu'n eu gwneud, bydd yn sicr o fyw; ni fydd farw.

29. Ac eto fe ddywed tŷ Israel, ‘Nid yw ffordd yr Arglwydd yn gyfiawn.’ A yw fy ffyrdd i yn anghywir, dŷ Israel? Onid eich ffyrdd chwi sy'n anghywir?

Darllenwch bennod gyflawn Eseciel 18