Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 5:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Y mae gwefusau'r wraig ddieithr yn diferu mêl,a'i geiriau yn llyfnach nag olew,

4. ond yn y diwedd y mae'n chwerwach na wermod,yn llymach na chleddyf daufiniog.

5. Prysura ei thraed at farwolaeth,ac arwain ei chamre i Sheol.

6. Nid yw hi'n ystyried llwybr bywyd;y mae ei ffyrdd yn anwadal, a hithau'n ddi-hid.

7. Ond yn awr, blant, gwrandewch arnaf,a pheidiwch â throi oddi wrth fy ymadroddion.

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 5