Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 5:2-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. er mwyn iti ddal ar synnwyrac i'th wefusau ddiogelu deall.

3. Y mae gwefusau'r wraig ddieithr yn diferu mêl,a'i geiriau yn llyfnach nag olew,

4. ond yn y diwedd y mae'n chwerwach na wermod,yn llymach na chleddyf daufiniog.

5. Prysura ei thraed at farwolaeth,ac arwain ei chamre i Sheol.

6. Nid yw hi'n ystyried llwybr bywyd;y mae ei ffyrdd yn anwadal, a hithau'n ddi-hid.

7. Ond yn awr, blant, gwrandewch arnaf,a pheidiwch â throi oddi wrth fy ymadroddion.

8. Cadw draw oddi wrth ei ffordd;paid â mynd yn agos at ddrws ei thŷ;

9. rhag iti roi dy enw da i erailla'th urddas i estroniaid,

10. a rhag i ddieithriaid ymborthi ar dy gyfoethac i'th lafur fynd i dŷ estron;

11. rhag iti gael gofid pan ddaw dy ddiwedd,pan fydd dy gorff a'th gnawd yn darfod,

12. a dweud, “Pam y bu imi gasáu disgyblaeth,ac anwybyddu cerydd?

13. Nid oeddwn yn gwrando ar lais fy athrawon,nac yn rhoi sylw i'r rhai a'm dysgai.

14. Yr oeddwn ar fin bod yn gwbl ddrwgyng ngolwg y gynulleidfa gyfan.”

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 5