Hen Destament

Testament Newydd

Diarhebion 20:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gwatwarwr yw gwin, a therfysgwr yw diod gadarn;nid doeth mo'r sawl sydd dan eu dylanwad.

2. Y mae bygythiad brenin fel rhuad llew ifanc;y mae'r sawl a'i cynhyrfa'n peryglu ei fywyd.

3. Clod i bob un yw gwrthod cweryla,ond rhuthro i ymryson a wna pob ynfytyn.

4. Nid yw'r diog yn aredig yn yr hydref;eto y mae'n disgwyl yn amser cynhaeaf, heb ddim i'w gael.

5. Y mae cyngor yn y meddwl fel dyfroedd dyfnion,ond gall dyn deallus ei dynnu allan.

6. Y mae llawer un yn honni bod yn deyrngar,ond pwy a all gael dyn ffyddlon?

7. Y mae'r cyfiawn yn rhodio'n gywir;gwyn eu byd ei blant ar ei ôl!

Darllenwch bennod gyflawn Diarhebion 20