8. Digiasoch yr ARGLWYDD yn Horeb, ac yr oedd mor ddig nes iddo fwriadu eich difa.
9. Pan euthum i fyny i'r mynydd i dderbyn y llechau, llechau'r cyfamod a wnaeth yr ARGLWYDD â chwi, fe arhosais ar y mynydd am ddeugain diwrnod a deugain nos heb fwyta nac yfed.
10. Rhoddodd yr ARGLWYDD imi y ddwy lechen, llechau yr ysgrifennwyd arnynt gan fys Duw, ac arnynt yr oedd yr holl eiriau a lefarodd yr ARGLWYDD wrthych o ganol y tân ar y mynydd ar ddydd y cynulliad.
11. Ar ddiwedd y deugain diwrnod a deugain nos, rhoddodd yr ARGLWYDD imi'r ddwy lechen, llechau'r cyfamod,
12. a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Cod, dos i lawr ar unwaith o'r mynydd hwn, oherwydd y mae dy bobl, a ddygaist allan o'r Aifft, wedi gwneud peth llygredig; y maent wedi rhuthro i droi o'r ffordd a orchmynnais iddynt, ac wedi gwneud iddynt eu hunain ddelw dawdd.”
13. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Gwelais fod y bobl hyn yn bobl ystyfnig.
14. Gad lonydd imi, er mwyn imi eu difa a dileu eu henw o dan y nefoedd, a'th wneud di'n genedl gryfach a mwy niferus na hwy.”
15. Yna trois a dod i lawr o'r mynydd â dwy lechen y cyfamod yn fy nwylo, ac yr oedd y mynydd yn llosgi gan dân.