9. Dywedodd Moses a'r offeiriaid o Lefiaid wrth Israel gyfan, “Gwrando a chlyw, O Israel: y dydd hwn daethost yn bobl i'r ARGLWYDD dy Dduw;
10. yr wyt i wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw a chadw ei orchmynion a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw.”
11. Rhoddodd Moses orchymyn i'r bobl y dydd hwnnw a dweud:
12. “Pan fyddwch wedi croesi'r Iorddonen, dyma'r rhai sydd i sefyll ar Fynydd Garisim i fendithio'r bobl: Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Joseff a Benjamin.
13. A dyma'r rhai sydd i sefyll ar Fynydd Ebal i felltithio: Reuben, Gad, Aser, Sabulon, Dan a Nafftali.”
14. Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi wrth holl bobl Israel â llais uchel:
15. “Melltith ar y sawl a wna ddelw gerfiedig neu eilun tawdd, a gosod i fyny'n ddirgel bethau o waith dwylo crefftwr, pethau sy'n ffiaidd gan yr ARGLWYDD.” Y mae'r holl bobl i ateb, “Amen.”
16. “Melltith ar y sawl sy'n dirmygu ei dad neu ei fam.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
17. “Melltith ar y sawl sy'n symud terfyn ei gymydog.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
18. “Melltith ar y sawl sy'n camarwain y dall.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
19. “Melltith ar y sawl sy'n gwyro barn yn erbyn estron, amddifad neu weddw.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
20. “Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda gwraig i'w dad, oherwydd y mae'n dwyn gwarth ar ei dad.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”
21. “Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gydag unrhyw anifail.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”