Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34

Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Mynydd Ebal a'r Gyfraith

1. Rhoddodd Moses a henuriaid Israel orchymyn i'r bobl a dweud: “Cadwch y cwbl yr wyf yn ei orchymyn ichwi heddiw.

2. Y diwrnod y byddwch yn croesi'r Iorddonen ac yn dod i'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi ichwi, codwch feini mawrion a'u plastro â chalch.

3. Yna ysgrifennwch arnynt holl eiriau'r gyfraith hon, pan fyddwch wedi croesi drosodd i'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi ichwi, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, fel yr addawodd ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid wrthych.

4. Wedi ichwi groesi'r Iorddonen, yr ydych i godi'r meini hyn ym Mynydd Ebal a'u plastro â chalch, fel y gorchmynnais ichwi heddiw.

5. Ac yno byddwch yn adeiladu allor i'r ARGLWYDD eich Duw, allor o gerrig heb eu trin ag arf haearn.

6. Â cherrig cyfain y byddwch yn adeiladu'r allor i'r ARGLWYDD eich Duw, i offrymu arni boethoffrymau.

7. Yno hefyd yr aberthwch heddoffrymau a'u bwyta'n llawen gerbron yr ARGLWYDD eich Duw.

8. Ysgrifennwch yn hollol eglur ar y meini holl eiriau'r gyfraith hon.”

9. Dywedodd Moses a'r offeiriaid o Lefiaid wrth Israel gyfan, “Gwrando a chlyw, O Israel: y dydd hwn daethost yn bobl i'r ARGLWYDD dy Dduw;

10. yr wyt i wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw a chadw ei orchmynion a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw.”

Melltithion ar Anufudd-dod

11. Rhoddodd Moses orchymyn i'r bobl y dydd hwnnw a dweud:

12. “Pan fyddwch wedi croesi'r Iorddonen, dyma'r rhai sydd i sefyll ar Fynydd Garisim i fendithio'r bobl: Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Joseff a Benjamin.

13. A dyma'r rhai sydd i sefyll ar Fynydd Ebal i felltithio: Reuben, Gad, Aser, Sabulon, Dan a Nafftali.”

14. Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi wrth holl bobl Israel â llais uchel:

15. “Melltith ar y sawl a wna ddelw gerfiedig neu eilun tawdd, a gosod i fyny'n ddirgel bethau o waith dwylo crefftwr, pethau sy'n ffiaidd gan yr ARGLWYDD.” Y mae'r holl bobl i ateb, “Amen.”

16. “Melltith ar y sawl sy'n dirmygu ei dad neu ei fam.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

17. “Melltith ar y sawl sy'n symud terfyn ei gymydog.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

18. “Melltith ar y sawl sy'n camarwain y dall.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

19. “Melltith ar y sawl sy'n gwyro barn yn erbyn estron, amddifad neu weddw.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

20. “Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda gwraig i'w dad, oherwydd y mae'n dwyn gwarth ar ei dad.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

21. “Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gydag unrhyw anifail.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

22. “Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda'i chwaer, p'run ai merch i'w dad neu ferch i'w fam yw hi.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

23. “Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda'i fam-yng-nghyfraith.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

24. “Melltith ar y sawl sy'n ymosod ar rywun arall yn y dirgel.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

25. “Melltith ar y sawl sy'n derbyn tâl am ladd dyn dieuog.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

26. “Melltith ar unrhyw un nad yw'n ategu holl eiriau'r gyfraith hon trwy eu cadw.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”