Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 27:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. “Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda'i chwaer, p'run ai merch i'w dad neu ferch i'w fam yw hi.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

23. “Melltith ar y sawl sy'n cael cyfathrach rywiol gyda'i fam-yng-nghyfraith.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

24. “Melltith ar y sawl sy'n ymosod ar rywun arall yn y dirgel.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

25. “Melltith ar y sawl sy'n derbyn tâl am ladd dyn dieuog.” Y mae'r holl bobl i ddweud, “Amen.”

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 27