2. Y diwrnod y byddwch yn croesi'r Iorddonen ac yn dod i'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi ichwi, codwch feini mawrion a'u plastro â chalch.
3. Yna ysgrifennwch arnynt holl eiriau'r gyfraith hon, pan fyddwch wedi croesi drosodd i'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi ichwi, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, fel yr addawodd ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid wrthych.
4. Wedi ichwi groesi'r Iorddonen, yr ydych i godi'r meini hyn ym Mynydd Ebal a'u plastro â chalch, fel y gorchmynnais ichwi heddiw.
5. Ac yno byddwch yn adeiladu allor i'r ARGLWYDD eich Duw, allor o gerrig heb eu trin ag arf haearn.
6. Â cherrig cyfain y byddwch yn adeiladu'r allor i'r ARGLWYDD eich Duw, i offrymu arni boethoffrymau.
7. Yno hefyd yr aberthwch heddoffrymau a'u bwyta'n llawen gerbron yr ARGLWYDD eich Duw.
8. Ysgrifennwch yn hollol eglur ar y meini holl eiriau'r gyfraith hon.”
9. Dywedodd Moses a'r offeiriaid o Lefiaid wrth Israel gyfan, “Gwrando a chlyw, O Israel: y dydd hwn daethost yn bobl i'r ARGLWYDD dy Dduw;
10. yr wyt i wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw a chadw ei orchmynion a'i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw.”
11. Rhoddodd Moses orchymyn i'r bobl y dydd hwnnw a dweud:
12. “Pan fyddwch wedi croesi'r Iorddonen, dyma'r rhai sydd i sefyll ar Fynydd Garisim i fendithio'r bobl: Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, Joseff a Benjamin.
13. A dyma'r rhai sydd i sefyll ar Fynydd Ebal i felltithio: Reuben, Gad, Aser, Sabulon, Dan a Nafftali.”
14. Bydd y Lefiaid yn cyhoeddi wrth holl bobl Israel â llais uchel:
15. “Melltith ar y sawl a wna ddelw gerfiedig neu eilun tawdd, a gosod i fyny'n ddirgel bethau o waith dwylo crefftwr, pethau sy'n ffiaidd gan yr ARGLWYDD.” Y mae'r holl bobl i ateb, “Amen.”