Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 27:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Rhoddodd Moses a henuriaid Israel orchymyn i'r bobl a dweud: “Cadwch y cwbl yr wyf yn ei orchymyn ichwi heddiw.

2. Y diwrnod y byddwch yn croesi'r Iorddonen ac yn dod i'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi ichwi, codwch feini mawrion a'u plastro â chalch.

3. Yna ysgrifennwch arnynt holl eiriau'r gyfraith hon, pan fyddwch wedi croesi drosodd i'r wlad y mae'r ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi ichwi, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, fel yr addawodd ARGLWYDD Dduw eich hynafiaid wrthych.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 27