1. Ni fydd gan yr offeiriaid o Lefiaid, na neb o lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth gydag Israel. Yr offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD a fwyteir ganddynt fydd eu hetifeddiaeth.
2. Ni fydd ganddynt etifeddiaeth ymhlith eu cymrodyr; yr ARGLWYDD fydd eu hetifeddiaeth hwy, fel y dywedodd wrthynt.
3. Dyma fydd hawl yr offeiriaid oddi wrth y bobl sy'n offrymu aberth, p'run ai eidion ynteu dafad: dylid rhoi i'r offeiriad yr ysgwydd, y ddwy foch a'r cylla.
4. Yr wyt i roi iddo flaenffrwyth dy ŷd, dy win newydd a'th olew, a'r cnu cyntaf wrth gneifio dy ddefaid;
5. oherwydd allan o'th holl lwythau dewisodd yr ARGLWYDD dy Dduw ef a'i ddisgynyddion i sefyll a gwasanaethu yn enw'r ARGLWYDD am byth.
6. Os bydd Lefiad, sy'n aros yn unrhyw un o'ch trefi trwy Israel gyfan, yn dod o'i wirfodd i'r man y bydd yr ARGLWYDD yn ei ddewis,
7. caiff wasanaethu yn enw'r ARGLWYDD ei Dduw ymysg ei gyd-Lefiaid sy'n gwasanaethu'r ARGLWYDD yno.
8. Caiff ran gyfartal i'w bwyta, heblaw'r hyn a gaiff o eiddo'i deulu.
9. Pan fyddi wedi dod i'r tir y mae'r ARGLWYDD dy Dduw yn ei roi iti, paid â dysgu gwneud yn ôl arferion ffiaidd y cenhedloedd hynny.
10. Nid yw neb yn eich mysg i roi ei fab na'i ferch yn aberth trwy dân; nac i arfer dewiniaeth, hudoliaeth, na darogan; nac i gonsurio,