Ni fydd gan yr offeiriaid o Lefiaid, na neb o lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth gydag Israel. Yr offrymau trwy dân i'r ARGLWYDD a fwyteir ganddynt fydd eu hetifeddiaeth.