Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 16:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pan aeth Samson i Gasa, gwelodd yno butain ac aeth i mewn ati.

2. Clywodd pobl Gasa fod Samson yno, a daethant at ei gilydd a disgwyl amdano drwy'r nos wrth borth y dref heb wneud unrhyw symudiad, gan feddwl, “Pan ddaw'n olau ddydd, fe'i lladdwn.”

3. Gorweddodd Samson hyd hanner nos; yna cododd a gafael yn nwy ddôr a dau gilbost porth y dref, a'u codi o'u lle, ynghyd â'r bar. Ac wedi eu gosod ar ei ysgwyddau, fe'u cariodd i gopa'r mynydd gyferbyn â Hebron.

4. Ar ôl hyn, syrthiodd mewn cariad â dynes yn nyffryn Sorec, o'r enw Delila.

5. Daeth arglwyddi'r Philistiaid ati a dweud wrthi, “Huda ef, i gael gweld ymhle y mae ei nerth mawr, a pha fodd y gallwn ei drechu a'i rwymo a'i gadw'n gaeth. Yna fe rydd pob un ohonom iti un cant ar ddeg o ddarnau arian.”

6. Dywedodd Delila wrth Samson, “Dywed i mi ymhle y mae dy nerth mawr, a sut y gellir dy rwymo i'th gadw'n gaeth?”

7. Dywedodd Samson wrthi, “Petaent yn fy rhwymo â saith llinyn bwa ir heb sychu, yna mi awn cyn wanned â dyn cyffredin.”

8. Daeth arglwyddi'r Philistiaid â saith llinyn bwa ir heb sychu iddi, a rhwymodd hithau ef â hwy.

9. Tra oedd gwylwyr cudd yn disgwyl mewn ystafell fewnol, dywedodd hi wrtho, “Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!” Torrodd yntau y llinynnau, fel y torrir edau garth pan ddaw'n agos at dân. Ni ddatgelwyd cyfrinach ei gryfder.

10. Ac meddai Delila wrth Samson, “Dyma ti wedi gwneud ffŵl ohonof a dweud celwydd wrthyf; yn awr dywed wrthyf yn iawn sut y rhwymir di.”

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 16