Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21

Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Samson yn Gasa

1. Pan aeth Samson i Gasa, gwelodd yno butain ac aeth i mewn ati.

2. Clywodd pobl Gasa fod Samson yno, a daethant at ei gilydd a disgwyl amdano drwy'r nos wrth borth y dref heb wneud unrhyw symudiad, gan feddwl, “Pan ddaw'n olau ddydd, fe'i lladdwn.”

3. Gorweddodd Samson hyd hanner nos; yna cododd a gafael yn nwy ddôr a dau gilbost porth y dref, a'u codi o'u lle, ynghyd â'r bar. Ac wedi eu gosod ar ei ysgwyddau, fe'u cariodd i gopa'r mynydd gyferbyn â Hebron.

Samson a Delila

4. Ar ôl hyn, syrthiodd mewn cariad â dynes yn nyffryn Sorec, o'r enw Delila.

5. Daeth arglwyddi'r Philistiaid ati a dweud wrthi, “Huda ef, i gael gweld ymhle y mae ei nerth mawr, a pha fodd y gallwn ei drechu a'i rwymo a'i gadw'n gaeth. Yna fe rydd pob un ohonom iti un cant ar ddeg o ddarnau arian.”

6. Dywedodd Delila wrth Samson, “Dywed i mi ymhle y mae dy nerth mawr, a sut y gellir dy rwymo i'th gadw'n gaeth?”

7. Dywedodd Samson wrthi, “Petaent yn fy rhwymo â saith llinyn bwa ir heb sychu, yna mi awn cyn wanned â dyn cyffredin.”

8. Daeth arglwyddi'r Philistiaid â saith llinyn bwa ir heb sychu iddi, a rhwymodd hithau ef â hwy.

9. Tra oedd gwylwyr cudd yn disgwyl mewn ystafell fewnol, dywedodd hi wrtho, “Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!” Torrodd yntau y llinynnau, fel y torrir edau garth pan ddaw'n agos at dân. Ni ddatgelwyd cyfrinach ei gryfder.

10. Ac meddai Delila wrth Samson, “Dyma ti wedi gwneud ffŵl ohonof a dweud celwydd wrthyf; yn awr dywed wrthyf yn iawn sut y rhwymir di.”

11. Dywedodd yntau, “Pe rhwyment fi â rhaffau newydd heb fod erioed ar waith, yna mi awn cyn wanned â dyn cyffredin.”

12. Felly cymerodd Delila raffau newydd a'i rwymo â hwy, a dweud, “Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!” A thra oedd y gwylwyr yn parhau yn yr ystafell fewnol, torrodd ef y rhaffau oddi ar ei freichiau fel edau.

13. Ac meddai Delila wrth Samson, “Hyd yn hyn yr wyt wedi gwneud ffŵl ohonof a dweud celwydd wrthyf; dywed wrthyf yn iawn sut y rhwymir di.” Dywedodd wrthi, “Pe baet yn gwau saith cudyn fy mhen i'r we, ac yn ei thynhau â'r hoelen, yna mi awn cyn wanned â dyn cyffredin.”

14. Felly suodd Delila ef i gysgu, a gweodd saith cudyn ei ben i mewn i'r we, a'i thynhau â'r hoelen. Yna dywedodd wrtho, “Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!” Deffrôdd yntau o'i gwsg, a thynnodd yn rhydd yr hoelen, y garfan a'r we.

15. Ac meddai hi wrtho, “Sut y medri di ddweud, ‘Rwy'n dy garu’, a thithau heb ymddiried ynof? Y tair gwaith hyn yr wyt wedi gwneud ffŵl ohonof, a heb ddweud wrthyf yn iawn ymhle y mae dy nerth mawr.”

16. Ac oherwydd ei bod yn ei flino â'i geiriau, ddydd ar ôl dydd, ac yn dal i'w boeni nes ei fod wedi ymlâdd,

17. fe ddywedodd ei gyfrinach yn llawn wrthi. Dywedodd, “Nid yw ellyn erioed wedi cyffwrdd â'm pen, oherwydd bûm yn Nasaread i Dduw o groth fy mam. Petaent yn fy eillio, yna byddai fy nerth yn pallu ac mi awn cyn wanned â dyn cyffredin.”

18. Gwelodd Delila ei fod wedi dweud ei gyfrinach yn llawn wrthi, ac anfonodd am arglwyddi'r Philistiaid a dweud, “Dewch ar unwaith; y mae wedi dweud ei gyfrinach yn llawn wrthyf.” Daeth arglwyddi'r Philistiaid ati â'r arian yn eu llaw.

19. Suodd hi Samson i gysgu ar ei gliniau, ac yna galwodd am ddyn i eillio saith cudyn ei ben. Dechreuodd ei gystwyo, ac yr oedd ei nerth wedi cilio rhagddo.

20. Dywedodd, “Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!” Deffrôdd ef o'i gwsg gan feddwl, “Af allan fel o'r blaen ac ymryddhau.” Ni wyddai fod yr ARGLWYDD wedi cefnu arno.

21. Daliodd y Philistiaid ef, a thynnu ei lygaid, a mynd ag ef i lawr i Gasa a'i rwymo mewn gefynnau; a bu'n malu blawd yn y carchardy.

22. Ond dechreuodd ei wallt dyfu eto ar ôl ei eillio.

Marwolaeth Samson

23. Daeth arglwyddi'r Philistiaid ynghyd mewn llawenydd i offrymu aberth mawr i'w duw Dagon a dweud:“Rhoddodd ein duw yn ein dwyloein gelyn Samson.”

24. A phan welodd y bobl ef, rhoesant foliant i'w duw a dweud:“Rhoddodd ein duw yn ein dwyloein gelyn ac anrheithiwr ein gwlad,a amlhaodd ein celaneddau.”

25. Pan oeddent yn llawn hwyliau dywedasant, “Galwch Samson i'n difyrru.” Galwyd Samson o'r carchardy, a gwnaeth hwyl iddynt; a rhoddwyd ef i sefyll rhwng y colofnau.

26. Dywedodd Samson wrth y bachgen oedd yn gafael yn ei law, “Rho fi lle y gallaf deimlo'r colofnau sy'n cynnal y deml, imi gael pwyso arnynt.”

27. Yr oedd y deml yn llawn o ddynion a merched; yr oedd holl arglwyddi'r Philistiaid yno hefyd, a thua thair mil o bobl ar y to yn edrych ar Samson yn eu difyrru.

28. Yna galwodd Samson ar yr ARGLWYDD a dweud, “O Arglwydd DDUW, cofia fi, a nertha fi'r tro hwn yn unig, O Dduw, er mwyn imi gael dial unwaith am byth ar y Philistiaid am fy nau lygad.”

29. Ymestynnodd Samson at y ddwy golofn ganol oedd yn cynnal y deml, a phwyso arnynt, ei law dde ar un a'i law chwith ar y llall.

30. Yna dywedodd, “Bydded i minnau farw gyda'r Philistiaid!” Gwthiodd yn nerthol, a chwympodd y deml ar yr arglwyddi a'r holl bobl oedd ynddi, ac felly lladdodd Samson fwy wrth farw nag a laddodd yn ystod ei fywyd.

31. Aeth ei frodyr a'i holl deulu i lawr i'w gymryd ef a'i gludo oddi yno, a'i gladdu rhwng Sora ac Estaol ym medd ei dad Manoa. Bu'n farnwr ar Israel am ugain mlynedd.