Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 9:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Moesymgrymodd Meffiboseth a dweud, “Beth yw dy was, dy fod yn troi i edrych ar gi marw fel fi?”

9. Yna galwodd y brenin am Siba gwas Saul, a dweud wrtho, “Yr wyf yn rhoi i fab dy feistr bopeth oedd yn perthyn i Saul ac i unrhyw un o'i deulu.

10. Yr wyt ti i lafurio'r tir drosto—ti, a'th blant, a'th weision—a dod â'r cynnyrch yn fwyd i deulu dy feistr; ond caiff Meffiboseth, mab dy feistr, ei fwyd bob dydd wrth fy mwrdd i.” Yr oedd gan Siba bymtheg o feibion ac ugain gwas.

11. Dywedodd Siba wrth y brenin, “Fe wna dy was yn union fel y mae f'arglwydd frenin yn gorchymyn iddo.” Bu Meffiboseth yn bwyta wrth fwrdd Dafydd fel un o blant y brenin.

12. Yr oedd ganddo fab bach o'r enw Micha. Yr oedd pawb oedd yn byw yn nhÅ· Siba yn weision i Meffiboseth.

13. Yr oedd Meffiboseth yn byw yn Jerwsalem am ei fod yn cael ei fwyd bob dydd wrth fwrdd y brenin. Yr oedd yn gloff yn ei ddeudroed.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 9