Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Dafydd a Meffiboseth

1. Meddyliodd Dafydd, “Tybed a oes unrhyw un ar ôl o deulu Saul erbyn hyn, imi wneud caredigrwydd ag ef er mwyn Jonathan?”

2. Yr oedd gan deulu Saul was o'r enw Siba, a galwyd ef at Ddafydd. Gofynnodd y brenin iddo, “Ai Siba wyt ti?” Atebodd yntau, “Ie, dyma dy was.”

3. Yna gofynnodd y brenin, “A oes unrhyw un ar ôl o deulu Saul imi wneud caredigrwydd ag ef yn enw Duw?” Atebodd Siba, “Oes, y mae mab i Jonathan sydd yn gloff yn ei draed.”

4. Gofynnodd y brenin, “Ple mae ef?” A dywedodd Siba, “Y mae yn Lo-debar, yng nghartref Machir fab Ammiel.”

5. Anfonodd y Brenin Dafydd a'i gyrchu o Lo-debar, o gartref Machir fab Ammiel.

6. Pan gyrhaeddodd Meffiboseth fab Jonathan, fab Saul, syrthiodd ar ei wyneb o flaen Dafydd ac ymgreinio; gofynnodd Dafydd, “Meffiboseth?” ac atebodd yntau, “Ie, dyma dy was.”

7. Dywedodd Dafydd wrtho, “Paid ag ofni, yr wyf wedi penderfynu gwneud caredigrwydd â thi er mwyn Jonathan dy dad; yr wyf am roi'n ôl i ti holl dir dy daid Saul, ac fe gei di dy fwyd bob dydd wrth fy mwrdd i.”

8. Moesymgrymodd Meffiboseth a dweud, “Beth yw dy was, dy fod yn troi i edrych ar gi marw fel fi?”

9. Yna galwodd y brenin am Siba gwas Saul, a dweud wrtho, “Yr wyf yn rhoi i fab dy feistr bopeth oedd yn perthyn i Saul ac i unrhyw un o'i deulu.

10. Yr wyt ti i lafurio'r tir drosto—ti, a'th blant, a'th weision—a dod â'r cynnyrch yn fwyd i deulu dy feistr; ond caiff Meffiboseth, mab dy feistr, ei fwyd bob dydd wrth fy mwrdd i.” Yr oedd gan Siba bymtheg o feibion ac ugain gwas.

11. Dywedodd Siba wrth y brenin, “Fe wna dy was yn union fel y mae f'arglwydd frenin yn gorchymyn iddo.” Bu Meffiboseth yn bwyta wrth fwrdd Dafydd fel un o blant y brenin.

12. Yr oedd ganddo fab bach o'r enw Micha. Yr oedd pawb oedd yn byw yn nhÅ· Siba yn weision i Meffiboseth.

13. Yr oedd Meffiboseth yn byw yn Jerwsalem am ei fod yn cael ei fwyd bob dydd wrth fwrdd y brenin. Yr oedd yn gloff yn ei ddeudroed.