1. Meddyliodd Dafydd, “Tybed a oes unrhyw un ar ôl o deulu Saul erbyn hyn, imi wneud caredigrwydd ag ef er mwyn Jonathan?”
2. Yr oedd gan deulu Saul was o'r enw Siba, a galwyd ef at Ddafydd. Gofynnodd y brenin iddo, “Ai Siba wyt ti?” Atebodd yntau, “Ie, dyma dy was.”
3. Yna gofynnodd y brenin, “A oes unrhyw un ar ôl o deulu Saul imi wneud caredigrwydd ag ef yn enw Duw?” Atebodd Siba, “Oes, y mae mab i Jonathan sydd yn gloff yn ei draed.”