Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 24:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Unwaith eto enynnodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn yr Israeliaid, ac anogodd Ddafydd yn eu herbyn trwy ddweud, “Dos, cyfrifa'r Israeliaid a'r Jwdeaid.”

2. Felly fe ddywedodd y brenin wrth Joab, a swyddogion y fyddin oedd gydag ef, “Dos drwy holl lwythau Israel o Dan i Beerseba a chyfrifa'r bobl, er mwyn imi wybod eu nifer.”

3. Dywedodd Joab wrth y brenin, “Bydded i'r ARGLWYDD dy Dduw luosogi'r bobl ganwaith yr hyn ydynt, ac i tithau, f'arglwydd frenin, ei weld â'th lygaid dy hun; ond pam y mae f'arglwydd frenin â'i fryd ar wneud hyn?”

4. Ond yr oedd gair y brenin yn drech na Joab a swyddogion y fyddin; felly fe aeth Joab a swyddogion y fyddin allan yn ôl gorchymyn y brenin i gyfrif pobl Israel.

5. Wedi croesi'r Iorddonen, dechreusant yn Aroer, i'r de o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, yna aethant i Gad, ac ymlaen i Jaser.

6. Yna daethant i Gilead a gwlad yr Hethiaid, cyn belled â Cades; ac i Dan a Jaan, a chwmpasu at Sidon.

7. Daethant wedyn at ddinas gaerog Tyrus, a holl drefi'r Hefiaid a'r Canaaneaid, a gorffen yn Negef Jwda, yn Beerseba.

8. Wedi iddynt deithio drwy'r wlad gyfan, daethant yn ôl i Jerwsalem ymhen naw mis ac ugain diwrnod.

9. Rhoddodd Joab swm cyfrifiad y bobl i'r brenin: yr oedd yn Israel wyth gan mil o wŷr abl i drin cleddyf, ac yr oedd milwyr Jwda yn bum can mil.

10. Wedi iddo gyfrif y bobl, pigodd cydwybod Dafydd ef; a dywedodd wrth yr ARGLWYDD, “Pechais yn fawr trwy wneud hyn; am hynny, O ARGLWYDD, maddau i'th was, oherwydd bûm yn ffôl iawn.”

11. Wedi i Ddafydd godi fore trannoeth, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd Gad, gweledydd Dafydd, gan ddweud,

12. “Dos a dywed wrth Ddafydd, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf yn cynnig tri pheth iti; dewis di un ohonynt, ac fe'i gwnaf iti’.”

13. Daeth Gad at Ddafydd a'i hysbysu a dweud wrtho, “A fynni di dair blynedd o newyn yn dy wlad, ynteu tri mis o ffoi o flaen dy wrthwynebwyr tra byddant yn dy erlid, ynteu tridiau o haint yn dy wlad? Ystyria ac edrych pa ateb a roddaf i'r un a'm hanfonodd.”

14. Dywedodd Dafydd wrth Gad, “Y mae'n gyfyng iawn arnaf, ond bydded inni syrthio i law'r ARGLWYDD, am fod ei drugareddau'n aml, yn hytrach nag imi syrthio i ddwylo pobl.”

15. Felly dewisodd Dafydd yr haint. Yr oedd yn dymor y cynhaeaf gwenith, ac anfonodd yr ARGLWYDD haint ar Israel o'r bore hyd derfyn y cyfnod penodedig. Bu farw deng mil a thrigain o'r bobl o Dan i Beerseba.

16. Ond pan estynnodd yr angel ei law yn erbyn Jerwsalem i'w dinistrio, edifarhaodd yr ARGLWYDD am y niwed, a dywedodd wrth yr angel oedd yn distrywio'r bobl, “Digon bellach! Atal dy law.” Yr oedd angel yr ARGLWYDD yn ymyl llawr dyrnu Arafna y Jebusiad.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 24