Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 16:6-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Yr oedd yn taflu cerrig at Ddafydd a holl weision y brenin, er bod yr holl fintai a'r milwyr i gyd o boptu iddo.

7. Ac fel hyn yr oedd Simei yn dweud wrth felltithio: “Dos i ffwrdd, dos i ffwrdd, y llofrudd, y dihiryn;

8. y mae'r ARGLWYDD wedi talu iti am holl waed teulu Saul a ddisodlaist fel brenin; y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r deyrnas yn llaw dy fab Absalom. Dyma ti mewn adfyd oherwydd mai llofrudd wyt ti.”

9. Dywedodd Abisai fab Serfia wrth y brenin, “Pam y dylai'r ci marw hwn gael melltithio f'arglwydd frenin? Gad imi fynd ato a thorri ei ben i ffwrdd.”

10. Ond meddai'r brenin, “Beth sydd a wnelo hyn â mi neu â chwi, feibion Serfia? Y mae ef yn melltithio fel hyn am fod yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho am felltithio Dafydd, a phwy sydd i ofyn, ‘Pam y gwnaethost hyn?’ ”

11. Ychwanegodd Dafydd wrth Abisai a'i holl weision. “Edrychwch, y mae fy mab i fy hun yn ceisio fy mywyd; pa faint mwy y Benjaminiad hwn?

12. Gadewch iddo felltithio, oherwydd yr ARGLWYDD sydd wedi dweud wrtho. Efallai y bydd yr ARGLWYDD yn edrych ar fy nghyni, ac yn gwneud daioni imi yn lle ei felltith ef heddiw.”

13. Yna, tra oedd Dafydd a'i filwyr yn mynd ar hyd y ffordd, yr oedd Simei yn mynd ar hyd ochr y mynydd gyferbyn ag ef, yn melltithio ac yn lluchio cerrig ac yn taflu pridd ato.

14. Erbyn iddynt gyrraedd yr Iorddonen yr oedd y brenin a'r holl bobl oedd gydag ef yn lluddedig, felly cymerasant seibiant yno.

15. Yr oedd Absalom a'r holl fyddin o Israeliaid wedi cyrraedd Jerwsalem, ac Ahitoffel gyda hwy.

16. Yna, pan ddaeth Husai yr Arciad, cyfaill Dafydd, at Absalom a dweud wrtho, “Byw fyddo'r brenin, byw fyddo'r brenin!”

17. Gofynnodd Absalom i Husai, “Ai dyma dy deyrngarwch i'th gyfaill? Pam nad aethost ti gyda'th gyfaill?”

18. Ac meddai Husai wrth Absalom, “O na, yr wyf fi o blaid yr un a ddewiswyd gan yr ARGLWYDD, a'r bobl hyn a'r holl Israeliaid, a chydag ef yr arhosaf.

19. Ac at hynny, pwy a ddylwn i ei wasanaethu? Onid ei fab? Fel y bûm yn gwasanaethu dy dad, felly y byddaf gyda thi.”

20. Yna dywedodd Absalom wrth Ahitoffel, “Rho gyngor inni beth i'w wneud.”

21. Atebodd Ahitoffel, “Dos i mewn at ordderchwragedd dy dad a adawodd ef i ofalu am y tŷ; a phan fydd Israel gyfan yn clywed dy fod wedi dy ffieiddio gan dy dad, fe gryfheir dwylo pawb sydd gyda thi.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 16