Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 16:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Wedi i Ddafydd fynd ychydig heibio i gopa'r mynydd, dyma Siba gwas Meffiboseth yn ei gyfarfod â chwpl o asynnod wedi eu cyfrwyo yn cario dau gan torth o fara, can swp o rawnwin, cant o ffrwythau haf a photel o win.

2. Dywedodd y brenin wrth Siba, “Beth yw'r rhain sydd gennyt?” Atebodd Siba, “Y mae'r asynnod ar gyfer teulu'r brenin i'w marchogaeth, y bara a'r ffrwythau i'r bechgyn i'w bwyta, a'r gwin i'w yfed gan unrhyw un fydd yn lluddedig yn yr anialwch.”

3. Holodd y brenin, “Ond ymhle y mae ŵyr dy feistr?” Atebodd Siba, “Y mae ef wedi aros yn Jerwsalem, oblegid y mae'n meddwl y bydd yr Israeliaid yn awr yn dychwelyd teyrnas ei daid iddo.”

4. Dywedodd y brenin wrth Siba, “Edrych, ti biau bopeth sydd gan Meffiboseth.” Atebodd Siba, “Yr wyf yn ymostwng o'th flaen; bydded imi gael ffafr yn dy olwg, f'arglwydd frenin.”

5. Pan gyrhaeddodd Dafydd Bahurim, dyma ddyn o dylwyth Saul, o'r enw Simei fab Gera, yn dod allan oddi yno dan felltithio.

6. Yr oedd yn taflu cerrig at Ddafydd a holl weision y brenin, er bod yr holl fintai a'r milwyr i gyd o boptu iddo.

7. Ac fel hyn yr oedd Simei yn dweud wrth felltithio: “Dos i ffwrdd, dos i ffwrdd, y llofrudd, y dihiryn;

8. y mae'r ARGLWYDD wedi talu iti am holl waed teulu Saul a ddisodlaist fel brenin; y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi'r deyrnas yn llaw dy fab Absalom. Dyma ti mewn adfyd oherwydd mai llofrudd wyt ti.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 16