Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 13:6-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Felly aeth Amnon i'w wely a chymryd arno ei fod yn glaf; a phan ddaeth y brenin i'w weld, dywedodd Amnon wrtho, “Gad i'm chwaer Tamar ddod a gwneud cwpl o deisennau bach o flaen fy llygaid, fel y caf fwyta o'i llaw.”

7. Anfonodd Dafydd at Tamar i'r palas a dweud, “Dos yn awr i dŷ dy frawd Amnon a pharatoa fwyd iddo.”

8. Fe aeth Tamar i dŷ ei brawd Amnon, ac yntau yn ei wely; cymerodd does, a'i dylino a gwneud teisennau bach o flaen ei lygaid, a'u crasu.

9. Yna cymerodd y badell a'u gosod o'i flaen. Ond gwrthododd Amnon fwyta, a gorchmynnodd iddynt anfon pawb allan.

10. Wedi i bawb fynd allan, dywedodd Amnon wrth Tamar, “Tyrd â'r bwyd i'r siambr imi gael bwyta o'th law.” Felly cymerodd Tamar y teisennau a baratôdd, a mynd â hwy at Amnon ei brawd i'r siambr;

11. ond pan gynigiodd hwy iddo i'w bwyta, ymaflodd ynddi, a dweud wrthi, “Tyrd, fy chwaer, gorwedd gyda mi.”

12. Dywedodd hithau wrtho, “Na, fy mrawd, paid â'm treisio, oherwydd ni wneir fel hyn yn Israel; paid â gwneud peth mor ffôl.

13. Amdanaf fi, i ble y gallwn fynd â'm gwarth? A byddit tithau fel un o'r ffyliaid yn Israel. Dos i ofyn i'r brenin, oherwydd ni fyddai'n gwrthod fy rhoi iti.”

14. Ond gwrthododd wrando arni, a threchodd hi a'i threisio a gorwedd gyda hi.

15. Yna casaodd Amnon hi â chas perffaith; yn wir yr oedd ei gasineb tuag ati yn fwy na'r cariad a fu ganddo, a dywedodd wrthi, “Cod a dos.”

16. Dywedodd hithau, “Na, oherwydd y mae fy ngyrru i ffwrdd yn waeth cam na'r llall a wnaethost â mi.” Ni fynnai ef wrando arni,

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 13