Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24

Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Amnon a Tamar

1. Yr oedd gan Absalom fab Dafydd chwaer brydferth o'r enw Tamar, a syrthiodd Amnon, un arall o feibion Dafydd, mewn cariad â hi.

2. Poenodd Amnon nes ei fod yn glaf o achos ei chwaer Tamar; oherwydd yr oedd hi yn wyryf, ac nid oedd yn bosibl yng ngolwg Amnon iddo wneud dim iddi.

3. Ond yr oedd ganddo gyfaill o'r enw Jonadab, mab Simea brawd Dafydd, ac yr oedd Jonadab yn ddyn cyfrwys iawn.

4. Gofynnodd hwn iddo, “Pam yr wyt ti'n nychu fel hyn o ddydd i ddydd, O fab y brenin? Oni ddywedi di wrthyf?” Atebodd Amnon, “Yr wyf mewn cariad â Tamar, chwaer fy mrawd Absalom.”

5. Yna dywedodd Jonadab wrtho, “Gorwedd ar dy wely a chymer arnat dy fod yn glaf; a phan ddaw dy dad i'th weld, dywed wrtho, ‘Gad i'm chwaer Tamar ddod i roi bwyd imi, a pharatoi'r bwyd yn fy ngolwg, er mwyn i mi gael gweld a bwyta o'i llaw hi.’ ”

6. Felly aeth Amnon i'w wely a chymryd arno ei fod yn glaf; a phan ddaeth y brenin i'w weld, dywedodd Amnon wrtho, “Gad i'm chwaer Tamar ddod a gwneud cwpl o deisennau bach o flaen fy llygaid, fel y caf fwyta o'i llaw.”

7. Anfonodd Dafydd at Tamar i'r palas a dweud, “Dos yn awr i dŷ dy frawd Amnon a pharatoa fwyd iddo.”

8. Fe aeth Tamar i dŷ ei brawd Amnon, ac yntau yn ei wely; cymerodd does, a'i dylino a gwneud teisennau bach o flaen ei lygaid, a'u crasu.

9. Yna cymerodd y badell a'u gosod o'i flaen. Ond gwrthododd Amnon fwyta, a gorchmynnodd iddynt anfon pawb allan.

10. Wedi i bawb fynd allan, dywedodd Amnon wrth Tamar, “Tyrd â'r bwyd i'r siambr imi gael bwyta o'th law.” Felly cymerodd Tamar y teisennau a baratôdd, a mynd â hwy at Amnon ei brawd i'r siambr;

11. ond pan gynigiodd hwy iddo i'w bwyta, ymaflodd ynddi, a dweud wrthi, “Tyrd, fy chwaer, gorwedd gyda mi.”

12. Dywedodd hithau wrtho, “Na, fy mrawd, paid â'm treisio, oherwydd ni wneir fel hyn yn Israel; paid â gwneud peth mor ffôl.

13. Amdanaf fi, i ble y gallwn fynd â'm gwarth? A byddit tithau fel un o'r ffyliaid yn Israel. Dos i ofyn i'r brenin, oherwydd ni fyddai'n gwrthod fy rhoi iti.”

14. Ond gwrthododd wrando arni, a threchodd hi a'i threisio a gorwedd gyda hi.

15. Yna casaodd Amnon hi â chas perffaith; yn wir yr oedd ei gasineb tuag ati yn fwy na'r cariad a fu ganddo, a dywedodd wrthi, “Cod a dos.”

16. Dywedodd hithau, “Na, oherwydd y mae fy ngyrru i ffwrdd yn waeth cam na'r llall a wnaethost â mi.” Ni fynnai ef wrando arni,

17. ond galwodd am y llanc oedd yn gweini arno, a dweud, “Gyrrwch hon i ffwrdd oddi wrthyf, a chloi'r drws ar ei hôl.”

18. Yr oedd ganddi fantell amryliw amdani, oherwydd dyna sut yr arferai tywysogesau dibriod wisgo. Pan drodd ei was hi allan a chloi'r drws ar ei hôl,

19. taflodd Tamar ludw drosti ei hun, rhwygo'i mantell amryliw, gosod ei llaw ar ei phen, a mynd allan gan lefain.

20. Gofynnodd ei brawd Absalom iddi, “Ai dy frawd Amnon a fu gyda thi? Taw, yn awr, fy chwaer; dy frawd yw ef, paid â phoeni'n ormodol am hyn.” Ond arhosodd Tamar yn alarus yng nghartref ei brawd Absalom.

21. Pan glywodd y brenin Dafydd am hyn i gyd, bu'n ddig iawn, ond ni wastrododd ei fab Amnon, am ei fod yn ei garu, oherwydd ef oedd ei gyntafanedig.

22. Ni ddywedodd Absalom air wrth Amnon na drwg na da; ond yr oedd Absalom yn casáu Amnon am iddo dreisio ei chwaer Tamar.

Dial Absalom

23. Ymhen dwy flynedd yr oedd yn ddiwrnod cneifio gan Absalom yn Baal-hasor ger Effraim, ac fe estynnodd wahoddiad i holl feibion y brenin.

24. Aeth Absalom at y brenin hefyd, a dweud, “Edrych, y mae gan dy was ddiwrnod cneifio; doed y brenin a'i weision yno gyda'th was.”

25. Ond meddai'r brenin wrth Absalom, “Na, na, fy mab, ni ddown i gyd, rhag bod yn ormod o faich arnat.” Ac er iddo grefu, gwrthododd fynd; ond rhoes ei fendith iddo.

26. Yna dywedodd Absalom, “Os na ddoi di, gad i'm brawd Amnon ddod gyda ni.” Gofynnodd y brenin, “Pam y dylai ef fynd gyda thi?”

27. Ond wedi i Absalom grefu arno, fe anfonodd gydag ef Amnon a holl feibion y brenin.

28. Yna huliodd Absalom wledd frenhinol, a gorchymyn i'w lanciau, “Edrychwch, pan fydd Amnon yn llawen gan win, a minnau'n dweud, ‘Tarwch Amnon’, yna lladdwch ef. Peidiwch ag ofni; onid wyf fi wedi gorchymyn i chwi? Byddwch yn wrol a dewr.”

29. Gwnaeth y llanciau i Amnon yn ôl gorchymyn Absalom, a neidiodd holl feibion y brenin ar gefn eu mulod a ffoi.

30. Tra oeddent ar y ffordd, daeth si i glyw Dafydd fod Absalom wedi lladd holl feibion y brenin, heb adael yr un ohonynt.

31. Cododd y brenin a rhwygo'i ddillad; yna gorweddodd ar lawr, a'i holl weision yn sefyll o'i gwmpas â'u dillad wedi eu rhwygo.

32. Yna meddai Jonadab mab Simea brawd Dafydd, “Peidied f'arglwydd â meddwl eu bod wedi lladd y bechgyn, meibion y brenin, i gyd; Amnon yn unig sydd wedi marw. Y mae hyn wedi bod ym mwriad Absalom o'r dydd y treisiodd ei chwaer Tamar.

33. Peidied f'arglwydd yn awr â chymryd y peth at ei galon, fel petai holl feibion y brenin wedi marw; Amnon yn unig sy'n farw,

34. ac y mae Absalom wedi ffoi.” Fel yr oedd y llanc oedd ar wyliadwriaeth yn edrych allan, gwelodd dwr o bobl yn dod i lawr o gyfeiriad Horonaim. Aeth y gwyliwr a dweud wrth y brenin ei fod wedi gweld dynion yn dod o gyfeiriad Horonaim ar hyd ochr y mynydd.

35. Dywedodd Jonadab wrth y brenin, “Dacw feibion y brenin yn dod. Y mae wedi digwydd fel y dywedodd dy was.”

36. Ac fel yr oedd yn gorffen siarad, dyma feibion y brenin yn cyrraedd ac yn torri allan i wylo, nes bod y brenin hefyd a'i holl weision yn wylo'n chwerw.

37. Ffodd Absalom, a mynd at Talmai fab Ammihur brenin Gesur; ac yr oedd Dafydd yn parhau i alaru ar ôl ei fab.

38. Wedi i Absalom ffoi a chyrraedd Gesur, arhosodd yno am dair blynedd.

39. Yna cododd hiraeth ar y Brenin Dafydd am Absalom, unwaith yr oedd wedi ei gysuro am farwolaeth Amnon.