Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 13:36-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

36. Ac fel yr oedd yn gorffen siarad, dyma feibion y brenin yn cyrraedd ac yn torri allan i wylo, nes bod y brenin hefyd a'i holl weision yn wylo'n chwerw.

37. Ffodd Absalom, a mynd at Talmai fab Ammihur brenin Gesur; ac yr oedd Dafydd yn parhau i alaru ar ôl ei fab.

38. Wedi i Absalom ffoi a chyrraedd Gesur, arhosodd yno am dair blynedd.

39. Yna cododd hiraeth ar y Brenin Dafydd am Absalom, unwaith yr oedd wedi ei gysuro am farwolaeth Amnon.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 13