Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 13:3-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Ond yr oedd ganddo gyfaill o'r enw Jonadab, mab Simea brawd Dafydd, ac yr oedd Jonadab yn ddyn cyfrwys iawn.

4. Gofynnodd hwn iddo, “Pam yr wyt ti'n nychu fel hyn o ddydd i ddydd, O fab y brenin? Oni ddywedi di wrthyf?” Atebodd Amnon, “Yr wyf mewn cariad â Tamar, chwaer fy mrawd Absalom.”

5. Yna dywedodd Jonadab wrtho, “Gorwedd ar dy wely a chymer arnat dy fod yn glaf; a phan ddaw dy dad i'th weld, dywed wrtho, ‘Gad i'm chwaer Tamar ddod i roi bwyd imi, a pharatoi'r bwyd yn fy ngolwg, er mwyn i mi gael gweld a bwyta o'i llaw hi.’ ”

6. Felly aeth Amnon i'w wely a chymryd arno ei fod yn glaf; a phan ddaeth y brenin i'w weld, dywedodd Amnon wrtho, “Gad i'm chwaer Tamar ddod a gwneud cwpl o deisennau bach o flaen fy llygaid, fel y caf fwyta o'i llaw.”

7. Anfonodd Dafydd at Tamar i'r palas a dweud, “Dos yn awr i dŷ dy frawd Amnon a pharatoa fwyd iddo.”

8. Fe aeth Tamar i dŷ ei brawd Amnon, ac yntau yn ei wely; cymerodd does, a'i dylino a gwneud teisennau bach o flaen ei lygaid, a'u crasu.

9. Yna cymerodd y badell a'u gosod o'i flaen. Ond gwrthododd Amnon fwyta, a gorchmynnodd iddynt anfon pawb allan.

10. Wedi i bawb fynd allan, dywedodd Amnon wrth Tamar, “Tyrd â'r bwyd i'r siambr imi gael bwyta o'th law.” Felly cymerodd Tamar y teisennau a baratôdd, a mynd â hwy at Amnon ei brawd i'r siambr;

11. ond pan gynigiodd hwy iddo i'w bwyta, ymaflodd ynddi, a dweud wrthi, “Tyrd, fy chwaer, gorwedd gyda mi.”

12. Dywedodd hithau wrtho, “Na, fy mrawd, paid â'm treisio, oherwydd ni wneir fel hyn yn Israel; paid â gwneud peth mor ffôl.

13. Amdanaf fi, i ble y gallwn fynd â'm gwarth? A byddit tithau fel un o'r ffyliaid yn Israel. Dos i ofyn i'r brenin, oherwydd ni fyddai'n gwrthod fy rhoi iti.”

14. Ond gwrthododd wrando arni, a threchodd hi a'i threisio a gorwedd gyda hi.

15. Yna casaodd Amnon hi â chas perffaith; yn wir yr oedd ei gasineb tuag ati yn fwy na'r cariad a fu ganddo, a dywedodd wrthi, “Cod a dos.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 13