Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 13:28-35 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. Yna huliodd Absalom wledd frenhinol, a gorchymyn i'w lanciau, “Edrychwch, pan fydd Amnon yn llawen gan win, a minnau'n dweud, ‘Tarwch Amnon’, yna lladdwch ef. Peidiwch ag ofni; onid wyf fi wedi gorchymyn i chwi? Byddwch yn wrol a dewr.”

29. Gwnaeth y llanciau i Amnon yn ôl gorchymyn Absalom, a neidiodd holl feibion y brenin ar gefn eu mulod a ffoi.

30. Tra oeddent ar y ffordd, daeth si i glyw Dafydd fod Absalom wedi lladd holl feibion y brenin, heb adael yr un ohonynt.

31. Cododd y brenin a rhwygo'i ddillad; yna gorweddodd ar lawr, a'i holl weision yn sefyll o'i gwmpas â'u dillad wedi eu rhwygo.

32. Yna meddai Jonadab mab Simea brawd Dafydd, “Peidied f'arglwydd â meddwl eu bod wedi lladd y bechgyn, meibion y brenin, i gyd; Amnon yn unig sydd wedi marw. Y mae hyn wedi bod ym mwriad Absalom o'r dydd y treisiodd ei chwaer Tamar.

33. Peidied f'arglwydd yn awr â chymryd y peth at ei galon, fel petai holl feibion y brenin wedi marw; Amnon yn unig sy'n farw,

34. ac y mae Absalom wedi ffoi.” Fel yr oedd y llanc oedd ar wyliadwriaeth yn edrych allan, gwelodd dwr o bobl yn dod i lawr o gyfeiriad Horonaim. Aeth y gwyliwr a dweud wrth y brenin ei fod wedi gweld dynion yn dod o gyfeiriad Horonaim ar hyd ochr y mynydd.

35. Dywedodd Jonadab wrth y brenin, “Dacw feibion y brenin yn dod. Y mae wedi digwydd fel y dywedodd dy was.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 13