Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 13:22-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Ni ddywedodd Absalom air wrth Amnon na drwg na da; ond yr oedd Absalom yn casáu Amnon am iddo dreisio ei chwaer Tamar.

23. Ymhen dwy flynedd yr oedd yn ddiwrnod cneifio gan Absalom yn Baal-hasor ger Effraim, ac fe estynnodd wahoddiad i holl feibion y brenin.

24. Aeth Absalom at y brenin hefyd, a dweud, “Edrych, y mae gan dy was ddiwrnod cneifio; doed y brenin a'i weision yno gyda'th was.”

25. Ond meddai'r brenin wrth Absalom, “Na, na, fy mab, ni ddown i gyd, rhag bod yn ormod o faich arnat.” Ac er iddo grefu, gwrthododd fynd; ond rhoes ei fendith iddo.

26. Yna dywedodd Absalom, “Os na ddoi di, gad i'm brawd Amnon ddod gyda ni.” Gofynnodd y brenin, “Pam y dylai ef fynd gyda thi?”

27. Ond wedi i Absalom grefu arno, fe anfonodd gydag ef Amnon a holl feibion y brenin.

28. Yna huliodd Absalom wledd frenhinol, a gorchymyn i'w lanciau, “Edrychwch, pan fydd Amnon yn llawen gan win, a minnau'n dweud, ‘Tarwch Amnon’, yna lladdwch ef. Peidiwch ag ofni; onid wyf fi wedi gorchymyn i chwi? Byddwch yn wrol a dewr.”

29. Gwnaeth y llanciau i Amnon yn ôl gorchymyn Absalom, a neidiodd holl feibion y brenin ar gefn eu mulod a ffoi.

30. Tra oeddent ar y ffordd, daeth si i glyw Dafydd fod Absalom wedi lladd holl feibion y brenin, heb adael yr un ohonynt.

31. Cododd y brenin a rhwygo'i ddillad; yna gorweddodd ar lawr, a'i holl weision yn sefyll o'i gwmpas â'u dillad wedi eu rhwygo.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 13