Hen Destament

Testament Newydd

2 Samuel 13:14-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Ond gwrthododd wrando arni, a threchodd hi a'i threisio a gorwedd gyda hi.

15. Yna casaodd Amnon hi â chas perffaith; yn wir yr oedd ei gasineb tuag ati yn fwy na'r cariad a fu ganddo, a dywedodd wrthi, “Cod a dos.”

16. Dywedodd hithau, “Na, oherwydd y mae fy ngyrru i ffwrdd yn waeth cam na'r llall a wnaethost â mi.” Ni fynnai ef wrando arni,

17. ond galwodd am y llanc oedd yn gweini arno, a dweud, “Gyrrwch hon i ffwrdd oddi wrthyf, a chloi'r drws ar ei hôl.”

18. Yr oedd ganddi fantell amryliw amdani, oherwydd dyna sut yr arferai tywysogesau dibriod wisgo. Pan drodd ei was hi allan a chloi'r drws ar ei hôl,

19. taflodd Tamar ludw drosti ei hun, rhwygo'i mantell amryliw, gosod ei llaw ar ei phen, a mynd allan gan lefain.

20. Gofynnodd ei brawd Absalom iddi, “Ai dy frawd Amnon a fu gyda thi? Taw, yn awr, fy chwaer; dy frawd yw ef, paid â phoeni'n ormodol am hyn.” Ond arhosodd Tamar yn alarus yng nghartref ei brawd Absalom.

21. Pan glywodd y brenin Dafydd am hyn i gyd, bu'n ddig iawn, ond ni wastrododd ei fab Amnon, am ei fod yn ei garu, oherwydd ef oedd ei gyntafanedig.

22. Ni ddywedodd Absalom air wrth Amnon na drwg na da; ond yr oedd Absalom yn casáu Amnon am iddo dreisio ei chwaer Tamar.

23. Ymhen dwy flynedd yr oedd yn ddiwrnod cneifio gan Absalom yn Baal-hasor ger Effraim, ac fe estynnodd wahoddiad i holl feibion y brenin.

24. Aeth Absalom at y brenin hefyd, a dweud, “Edrych, y mae gan dy was ddiwrnod cneifio; doed y brenin a'i weision yno gyda'th was.”

25. Ond meddai'r brenin wrth Absalom, “Na, na, fy mab, ni ddown i gyd, rhag bod yn ormod o faich arnat.” Ac er iddo grefu, gwrthododd fynd; ond rhoes ei fendith iddo.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Samuel 13