Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 16:5-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Pan glywodd Baasa, rhoddodd heibio adeiladu Rama a gadawodd y gwaith.

6. Yna daeth y Brenin Asa â holl Jwda i gymryd y meini a'r coed oedd gan Baasa yn adeiladu Rama, a'u defnyddio i adeiladu Geba a Mispa.

7. Y pryd hwnnw daeth Hanani y gweledydd at Asa brenin Jwda, a dweud wrtho, “Am i ti ymddiried ym mrenin Syria, a gwrthod ymddiried yn yr ARGLWYDD dy Dduw, dihangodd byddin brenin Syria o'th afael.

8. Onid oedd yr Ethiopiaid a'r Libyaid yn llu aneirif a chanddynt lawer iawn o gerbydau a marchogion? Ond am i ti ymddiried yn yr ARGLWYDD, rhoddodd ef hwy yn dy law.

9. Oherwydd y mae llygaid yr ARGLWYDD yn tramwyo dros yr holl ddaear, i ddangos ei gryfder i'r sawl sy'n gwbl ymroddedig iddo. Buost yn ynfyd yn hyn o beth; felly, o hyn allan ymladd fydd dy ran.”

10. Gwylltiodd Asa wrth y gweledydd a'i roi yn y carchar, oherwydd yr oedd yn ddig wrtho am ddweud hyn. A'r pryd hwnnw fe orthrymodd Asa rai o'r bobl.

11. Y mae hanes Asa, o'r dechrau i'r diwedd, wedi ei ysgrifennu yn llyfr brenhinoedd Jwda ac Israel.

12. Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain o'i deyrnasiad dechreuodd Asa ddioddef yn enbyd o glefyd yn ei draed; ond yn ei waeledd fe geisiodd y meddygon yn hytrach na'r ARGLWYDD.

13. Bu Asa farw; yn yr unfed flwyddyn a deugain o'i deyrnasiad y bu farw.

14. Claddwyd ef yn y bedd a wnaeth iddo'i hun yn Ninas Dafydd, a'i roi i orwedd ar wely yn llawn peraroglau a phob math o ennaint wedi eu cymysgu'n ofalus gan y peraroglydd; a gwnaethant dân mawr iawn i'w anrhydeddu.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 16