2 Brenhinoedd 5:22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)
“Ydyw, yn iawn,” meddai yntau, “fy meistr sydd wedi f'anfon i ddweud fod dau broffwyd ifanc newydd gyrraedd o ucheldir Effraim; bydd cystal â rhoi iddynt dalent o arian a dau bâr o ddillad.”