Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25

Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Iacháu Naaman

1. Yr oedd Naaman capten byddin brenin Syria yn ddyn uchel gan ei feistr ac yn fawr ei barch, am mai trwyddo ef yr oedd yr ARGLWYDD wedi gwaredu Syria. Ond aeth y rhyfelwr praff yn ŵr gwahanglwyfus.

2. Pan oeddent ar gyrch yn nhir Israel cipiodd y Syriaid eneth ifanc a'i dwyn i weini ar wraig Naaman.

3. Dywedodd wrth ei meistres, “Gresyn na fyddai fy meistr yn gweld y proffwyd sydd yn Samaria; byddai ef yn ei wella o'i wahanglwyf.”

4. Aeth Naaman a dweud wrth ei feistr, “Y mae'r eneth o wlad Israel yn dweud fel a'r fel.”

5. Ac meddai brenin Syria, “Dos di, ac anfonaf finnau lythyr at frenin Israel.” Yna aeth, a chymryd deg talent o arian, chwe mil o siclau aur a deg pâr o ddillad.

6. Dygodd hefyd at frenin Israel lythyr yn dweud, “Dyma fi'n anfon atat fy ngwas Naaman; cyn gynted ag y derbynni'r llythyr hwn, rwyt i'w wella o'i wahanglwyf.”

7. Pan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, rhwygodd ei ddillad a dweud, “Ai Duw wyf fi i beri marw neu fyw, bod hwn yn anfon ataf i wella dyn o'i wahanglwyf? Sylwch ar hyn, yn awr, a gwelwch mai chwilio am achos yn f'erbyn y mae.”

8. Pan glywodd Eliseus, gŵr Duw, fod brenin Israel wedi rhwygo'i ddillad, anfonodd at y brenin a dweud, “Pam yr wyt yn rhwygo dy ddillad? Gad iddo ddod ataf fi, er mwyn iddo wybod fod proffwyd yn Israel.”

9. Felly daeth Naaman, gyda'i feirch a'i gerbydau, a sefyll o flaen drws tŷ Eliseus,

10. a gyrrodd Eliseus neges allan ato: “Dos ac ymolchi saith waith yn yr Iorddonen, ac adferir dy gnawd yn holliach iti.”

11. Ffromodd Naaman, ac aeth i ffwrdd a dweud, “Meddyliais y byddai o leiaf yn dod allan a sefyll a galw ar enw'r ARGLWYDD ei Dduw, a symud ei law dros y fan, a gwella'r gwahanglwyf.

12. Onid yw Abana a Pharpar, afonydd Damascus, yn well na holl ddyfroedd Israel? Oni allwn ymolchi ynddynt hwy, a dod yn lân?” Trodd, a mynd i ffwrdd yn ei ddig.

13. Ond daeth ei weision ato a dweud wrtho, “Petai'r proffwyd wedi dweud rhywbeth mawr wrthyt, oni fyddit wedi ei wneud? Onid rheitiach felly gan mai dim ond ‘Ymolch a bydd lân’ a ddywedodd?”

14. Ar hynny fe aeth i lawr, ac ymdrochi saith waith yn yr Iorddonen yn ôl gair gŵr Duw, a daeth ei gnawd yn lân eto fel cnawd bachgen bach.

15. Yna dychwelodd ef a'i holl fintai at ŵr Duw, a sefyll o'i flaen a dweud, “Dyma fi'n gwybod yn awr nad oes Duw mewn un wlad ond yn Israel; felly, derbyn yn awr anrheg oddi wrth dy was.”

16. Atebodd yntau, “Cyn wired â bod yr ARGLWYDD a wasanaethaf yn fyw, ni chymeraf ddim.”

17. Ac er pwyso arno i gymryd, gwrthod a wnaeth. Dywedodd Naaman, “Os na chymeri, ynteu, rhodder llwyth cwpl o fulod o bridd i mi, dy was, gan na fyddaf ar ôl hyn yn offrymu poethoffrwm nac aberth i'r un duw arall ond i'r ARGLWYDD.

18. Ond yn unig—maddeued yr ARGLWYDD imi—pan fydd fy meistr yn mynychu teml Rimmon i addoli yno, ac yn pwyso ar fy llaw, byddaf finnau'n moesymgrymu yn nheml Rimmon pan fydd ef yn ymgrymu yno. Maddeued yr ARGLWYDD i'th was am y peth hwn.”

19. Dywedodd Eliseus wrtho, “Heddwch iti.”Pan oedd wedi mynd ychydig o ffordd,

20. meddyliodd Gehasi, gwas Eliseus gŵr Duw, “Y mae fy meistr wedi arbed y Syriad hwn, Naaman, drwy wrthod derbyn yr hyn a ddygodd; cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, mi redaf ar ei ôl i gael rhywbeth ganddo.”

21. Rhedodd ar ôl Naaman, a phan welodd Naaman ef yn rhedeg, disgynnodd o'i gerbyd i'w gyfarfod, a gofyn, “A yw popeth yn iawn?”

22. “Ydyw, yn iawn,” meddai yntau, “fy meistr sydd wedi f'anfon i ddweud fod dau broffwyd ifanc newydd gyrraedd o ucheldir Effraim; bydd cystal â rhoi iddynt dalent o arian a dau bâr o ddillad.”

23. Atebodd Naaman, “Ar bob cyfrif; cymer ddwy dalent.” Bu'n daer arno; clymodd ddwy dalent mewn dwy god, a'u rhoi gyda dau bâr o ddillad i ddau o'i weision i'w cario o'i flaen.

24. Pan ddaethant at y bonc, cymerodd Gehasi hwy o'u llaw a'u rhoi i gadw, ac yna anfonodd y gweision yn ôl.

25. Wedi iddynt fynd, aeth yntau i mewn i weini ar ei feistr, a dywedodd Eliseus wrtho, “Ple buost ti, Gehasi?” Atebodd, “Ni fu dy was yn unman.”

26. Ond dywedodd Eliseus, “Onid oedd fy nghalon gyda thi pan ddisgynnodd y gŵr o'i gerbyd i'th gyfarfod, a phan dderbyniaist yr arian? Pryn ddillad a gerddi olewydd a gwinllannoedd a defaid a gwartheg a gweision a morynion;

27. ond bydd gwahanglwyf Naaman yn glynu wrthyt ti a'th deulu am byth.” Aeth Gehasi allan o'i ŵydd yn wahanglwyfus, cyn wynned â'r eira.