Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 5:2-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Pan oeddent ar gyrch yn nhir Israel cipiodd y Syriaid eneth ifanc a'i dwyn i weini ar wraig Naaman.

3. Dywedodd wrth ei meistres, “Gresyn na fyddai fy meistr yn gweld y proffwyd sydd yn Samaria; byddai ef yn ei wella o'i wahanglwyf.”

4. Aeth Naaman a dweud wrth ei feistr, “Y mae'r eneth o wlad Israel yn dweud fel a'r fel.”

5. Ac meddai brenin Syria, “Dos di, ac anfonaf finnau lythyr at frenin Israel.” Yna aeth, a chymryd deg talent o arian, chwe mil o siclau aur a deg pâr o ddillad.

6. Dygodd hefyd at frenin Israel lythyr yn dweud, “Dyma fi'n anfon atat fy ngwas Naaman; cyn gynted ag y derbynni'r llythyr hwn, rwyt i'w wella o'i wahanglwyf.”

7. Pan ddarllenodd brenin Israel y llythyr, rhwygodd ei ddillad a dweud, “Ai Duw wyf fi i beri marw neu fyw, bod hwn yn anfon ataf i wella dyn o'i wahanglwyf? Sylwch ar hyn, yn awr, a gwelwch mai chwilio am achos yn f'erbyn y mae.”

8. Pan glywodd Eliseus, gŵr Duw, fod brenin Israel wedi rhwygo'i ddillad, anfonodd at y brenin a dweud, “Pam yr wyt yn rhwygo dy ddillad? Gad iddo ddod ataf fi, er mwyn iddo wybod fod proffwyd yn Israel.”

9. Felly daeth Naaman, gyda'i feirch a'i gerbydau, a sefyll o flaen drws tŷ Eliseus,

10. a gyrrodd Eliseus neges allan ato: “Dos ac ymolchi saith waith yn yr Iorddonen, ac adferir dy gnawd yn holliach iti.”

11. Ffromodd Naaman, ac aeth i ffwrdd a dweud, “Meddyliais y byddai o leiaf yn dod allan a sefyll a galw ar enw'r ARGLWYDD ei Dduw, a symud ei law dros y fan, a gwella'r gwahanglwyf.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 5