Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 14:7-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Trawodd Amaseia ddeng mil o filwyr Edom yn Nyffryn yr Halen, a chymryd Sela mewn brwydr a'i enwi'n Joctheel hyd heddiw.

8. Yna anfonodd genhadau at Joas fab Jehoahas, fab Jehu, brenin Israel, a dweud, “Tyrd, gad inni ddod wyneb yn wyneb.”

9. Anfonodd Joas brenin Israel yn ôl at Amaseia brenin Jwda, a dweud, “Gyrrodd ysgellyn oedd yn Lebanon at gedrwydden Lebanon yn dweud, ‘Rho dy ferch yn wraig i'm mab.’ Ond daeth rhyw fwystfil oedd yn Lebanon heibio a mathru'r ysgellyn.

10. Gorchfygaist Edom ac aethost yn ffroenuchel. Mwynha d'ogoniant, ac aros gartref; pam y codi helynt, ac yna cwympo a thynnu Jwda i lawr i'th ganlyn?”

11. Ond ni fynnai Amaseia wrando; felly daeth Joas brenin Israel ac Amaseia brenin Jwda wyneb yn wyneb ger Beth-semes yn Jwda.

12. Gorchfygwyd Jwda gan Israel, a ffodd pawb adref.

13. Wedi i Joas brenin Israel ddal Amaseia fab Jehoas, fab Ahaseia, brenin Jwda, yn Beth-semes, aeth yn ei flaen i Jerwsalem a thorri i lawr fur Jerwsalem o borth Effraim hyd borth y gongl, sef pedwar can cufydd.

14. Hefyd aeth â'r holl aur, arian a chelfi a gafwyd yn y deml ac yng nghoffrau'r palas; yna cymerodd wystlon, a dychwelodd i Samaria.

15. Am weddill hanes Joas, a'i wrhydri a'i frwydr yn erbyn Amaseia brenin Jwda, onid yw wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Israel?

16. Bu farw Joas, a chladdwyd ef yn Samaria gyda brenhinoedd Israel, a daeth ei fab Jeroboam yn frenin yn ei le.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 14