2 Brenhinoedd 14:9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)
Anfonodd Joas brenin Israel yn ôl at Amaseia brenin Jwda, a dweud, “Gyrrodd ysgellyn oedd yn Lebanon at gedrwydden Lebanon yn dweud, ‘Rho dy ferch yn wraig i'm mab.’ Ond daeth rhyw fwystfil oedd yn Lebanon heibio a mathru'r ysgellyn.