Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 9:3-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Aeth asennod Cis tad Saul ar goll, a dywedodd Cis wrth ei fab Saul, “Cymer un o'r gweision a dos i chwilio am yr asennod.”

4. Aethant drwy fynydd-dir Effraim a thrwy ardal Salisa, ond heb eu cael; yna mynd drwy ardal Saalim, ond nid oedd dim o'u hanes yno; ac yna drwy diriogaeth Benjamin, ond eto heb eu cael.

5. Wedi iddynt ddod i ardal Suff, dywedodd Saul wrth y gwas oedd gydag ef, “Tyrd, awn yn ôl, rhag i 'nhad anghofio'r asennod a dechrau poeni amdanom ni.”

6. Ac meddai'r gwas wrtho, “Edrych, y mae yma ŵr Duw yn y dref hon sy'n uchel ei glod, a phopeth a ddywed yn sicr o ddigwydd. Gad inni fynd ato, ac efallai y dywed wrthym pa ffordd y dylem fynd.”

7. Ond dywedodd Saul wrth ei was, “A bwrw'n bod ni'n mynd, beth a ddygwn ni i'r dyn? Y mae hyd yn oed y bara yn ein paciau wedi darfod; nid oes gennym unrhyw rodd i'w chynnig i ŵr Duw. Beth sydd gennym?”

8. Atebodd y gwas eto a dweud wrth Saul, “Wel, y mae'n digwydd bod gennyf fi chwarter sicl; fe'i rhoddaf i ŵr Duw am ddweud y ffordd wrthym.”

9. (Yn Israel gynt, fel hyn y dywedai rhywun wrth fynd i ymgynghori â Duw, “Dewch ac awn at y gweledydd.” Oherwydd gynt “gweledydd” oedd yr enw ar broffwyd.)

10. Dywedodd Saul wrth ei was, “Awgrym da. Tyrd, fe awn.” Ac aethant i'r dref lle'r oedd gŵr Duw.

11. Fel yr oeddent yn dringo'r allt at y dref, gwelsant ferched ar eu ffordd i dynnu dŵr, a dyna ofyn iddynt, “A yw'r gweledydd yma?”

12. “Ydyw,” meddent, “acw'n syth o'ch blaen; brysiwch, y mae newydd gyrraedd y dref, oherwydd y mae gan y bobl aberth heddiw yn yr uchelfa.

13. Os ewch i'r dref, fe'i daliwch cyn iddo fynd i'r uchelfa i fwyta; oherwydd ni fydd y bobl yn dechrau bwyta nes iddo gyrraedd, gan mai ef sy'n bendithio'r aberth cyn i'r gwahoddedigion fwyta. Ewch i fyny, ac fe'i cewch ar unwaith.”

14. Aethant tua'r dref, ac fel yr oeddent yn mynd i mewn iddi, dyna Samuel yn dod i'w cyfarfod ar ei ffordd i'r uchelfa.

15. Yr oedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio Samuel ryw ddiwrnod cyn i Saul gyrraedd, a dweud,

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 9