Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Saul yn Cyfarfod Samuel

1. Yr oedd gŵr blaenllaw yn Benjamin o'r enw Cis fab Abiel, fab Seror, fab Becorath, fab Affeia,

2. a chanddo fab o'r enw Saul, gŵr ifanc golygus nad oedd ei well ymysg yr Israeliaid, ac yn dalach o'i ysgwyddau i fyny na neb arall.

3. Aeth asennod Cis tad Saul ar goll, a dywedodd Cis wrth ei fab Saul, “Cymer un o'r gweision a dos i chwilio am yr asennod.”

4. Aethant drwy fynydd-dir Effraim a thrwy ardal Salisa, ond heb eu cael; yna mynd drwy ardal Saalim, ond nid oedd dim o'u hanes yno; ac yna drwy diriogaeth Benjamin, ond eto heb eu cael.

5. Wedi iddynt ddod i ardal Suff, dywedodd Saul wrth y gwas oedd gydag ef, “Tyrd, awn yn ôl, rhag i 'nhad anghofio'r asennod a dechrau poeni amdanom ni.”

6. Ac meddai'r gwas wrtho, “Edrych, y mae yma ŵr Duw yn y dref hon sy'n uchel ei glod, a phopeth a ddywed yn sicr o ddigwydd. Gad inni fynd ato, ac efallai y dywed wrthym pa ffordd y dylem fynd.”

7. Ond dywedodd Saul wrth ei was, “A bwrw'n bod ni'n mynd, beth a ddygwn ni i'r dyn? Y mae hyd yn oed y bara yn ein paciau wedi darfod; nid oes gennym unrhyw rodd i'w chynnig i ŵr Duw. Beth sydd gennym?”

8. Atebodd y gwas eto a dweud wrth Saul, “Wel, y mae'n digwydd bod gennyf fi chwarter sicl; fe'i rhoddaf i ŵr Duw am ddweud y ffordd wrthym.”

9. (Yn Israel gynt, fel hyn y dywedai rhywun wrth fynd i ymgynghori â Duw, “Dewch ac awn at y gweledydd.” Oherwydd gynt “gweledydd” oedd yr enw ar broffwyd.)

10. Dywedodd Saul wrth ei was, “Awgrym da. Tyrd, fe awn.” Ac aethant i'r dref lle'r oedd gŵr Duw.

11. Fel yr oeddent yn dringo'r allt at y dref, gwelsant ferched ar eu ffordd i dynnu dŵr, a dyna ofyn iddynt, “A yw'r gweledydd yma?”

12. “Ydyw,” meddent, “acw'n syth o'ch blaen; brysiwch, y mae newydd gyrraedd y dref, oherwydd y mae gan y bobl aberth heddiw yn yr uchelfa.

13. Os ewch i'r dref, fe'i daliwch cyn iddo fynd i'r uchelfa i fwyta; oherwydd ni fydd y bobl yn dechrau bwyta nes iddo gyrraedd, gan mai ef sy'n bendithio'r aberth cyn i'r gwahoddedigion fwyta. Ewch i fyny, ac fe'i cewch ar unwaith.”

14. Aethant tua'r dref, ac fel yr oeddent yn mynd i mewn iddi, dyna Samuel yn dod i'w cyfarfod ar ei ffordd i'r uchelfa.

15. Yr oedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio Samuel ryw ddiwrnod cyn i Saul gyrraedd, a dweud,

16. “Yr adeg yma yfory anfonaf atat ddyn o diriogaeth Benjamin, i'w eneinio'n dywysog ar fy mhobl Israel, ac fe wareda fy mhobl o law'r Philistiaid; oherwydd gwelais drueni fy mhobl, a daeth eu cri ataf.”

17. Pan welodd Samuel Saul, dywedodd yr ARGLWYDD, “Dyma'r dyn y dywedais wrthyt amdano; hwn sydd i reoli fy mhobl.”

18. Daeth Saul i fyny at Samuel yng nghanol y porth a dweud wrtho, “A fyddi mor garedig â dweud wrthyf ymhle y mae tŷ'r gweledydd?”

19. Atebodd Samuel, “Fi yw'r gweledydd; dos i fyny o'm blaen i'r uchelfa; cei fwyta gyda mi heddiw, a gollyngaf di ymaith yfory ar ôl dweud wrthyt bopeth sydd yn dy galon.

20. Ac am yr asennod sydd ar goll gennyt ers tridiau, paid â phoeni amdanynt, oherwydd cafwyd hwy. I bwy y mae popeth dymunol yn Israel? Onid i ti a'th holl deulu?”

21. Atebodd Saul, “Onid un o Benjamin wyf fi, o'r lleiaf o lwythau Israel? A'm tylwyth i yw'r distatlaf o holl dylwythau llwyth Benjamin. Pam, felly, yr wyt yn siarad fel hyn â mi?”

22. Cymerodd Samuel Saul a'i was, a mynd â hwy i'r neuadd a rhoi iddynt y lle blaenaf ymysg y gwahoddedigion; yr oedd tua deg ar hugain ohonynt.

23. Yna dywedodd Samuel wrth y cogydd, “Estyn y darn a roddais iti pan ddywedais wrthyt, ‘Cadw hwn o'r neilltu’.”

24. Dygodd y cogydd y glun a'r hyn oedd arni, a'i gosod gerbron Saul a dweud, “Dyma'r hyn a gadwyd ar dy gyfer; bwyta, oherwydd fe'i cadwyd iti ar gyfer yr amser penodedig, i'w fwyta gyda'r gwahoddedigion.” Bwytaodd Saul y diwrnod hwnnw gyda Samuel.

Samuel yn Eneinio Saul

25. Wedi iddynt ddychwelyd o'r uchelfa i'r dref, gwnaethant wely i Saul ar ben y tŷ, a chysgodd yno.

26. Pan dorrodd y wawr, galwodd Samuel ar Saul, ac yntau ar y to, a dweud, “Cod, imi gael dy anfon ymaith.” Ac wedi i Saul godi, aeth y ddau allan, Samuel ac yntau.

27. Wedi iddynt ddod i gwr y dref, dywedodd Samuel wrth Saul, “Dywed wrth y gwas am fynd o'n blaen, ac wedyn aros di ennyd, imi fynegi gair Duw iti.”