Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 22:4-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Felly gadawodd hwy gyda brenin Moab, a buont yn aros yno cyhyd ag y bu Dafydd yn ei loches.

5. Yna dywedodd y proffwyd Gad wrth Ddafydd, “Paid ag aros yn y lloches, dos yn ôl i dir Jwda.” Felly aeth Dafydd i Goed Hereth.

6. Clywodd Saul fod Dafydd a'r gwŷr oedd gydag ef wedi dod i'r golwg, ac yr oedd yntau ar y pryd yn Gibea, yn eistedd dan bren tamarisg ar y bryn â'i waywffon yn ei law, a'i weision yn sefyll o'i gwmpas.

7. Ac meddai Saul wrth y gweision o'i gwmpas, “Gwrandewch hyn, dylwyth Benjamin. A fydd mab Jesse yn rhoi i bob un ohonoch chwi feysydd a gwinllannoedd, a'ch gwneud i gyd yn swyddogion ar filoedd a channoedd?

8. Er hynny yr ydych i gyd yn cynllwyn yn f'erbyn. Nid ynganodd neb air wrthyf pan wnaeth fy mab gyfamod â mab Jesse. Nid oedd neb ohonoch yn poeni amdanaf fi, nac yn yngan gair wrthyf pan barodd fy mab i'm gwas godi cynllwyn yn f'erbyn fel y gwna heddiw.”

9. Yna atebodd Doeg yr Edomiad, a oedd yn sefyll gyda gweision Saul, a dweud, “Mi welais i fab Jesse'n dod i Nob at Ahimelech fab Ahitub.

10. Ymofynnodd yntau â'r ARGLWYDD drosto, a rhoi bwyd iddo; rhoes iddo hefyd gleddyf Goliath y Philistiad.”

11. Anfonodd y brenin am yr offeiriad Ahimelech fab Ahitub a'i deulu i gyd, a oedd yn offeiriaid yn Nob, a daethant oll at y brenin.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 22