1 Samuel 22:6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)
Clywodd Saul fod Dafydd a'r gwŷr oedd gydag ef wedi dod i'r golwg, ac yr oedd yntau ar y pryd yn Gibea, yn eistedd dan bren tamarisg ar y bryn â'i waywffon yn ei law, a'i weision yn sefyll o'i gwmpas.