Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 2:25-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

25. Os yw un yn pechu yn erbyn rhywun arall, y mae Duw yn ganolwr, ond os pecha rhywun yn erbyn yr ARGLWYDD, at bwy y gellir apelio?” Ond gwrthod gwrando ar eu tad a wnaethant, oherwydd ewyllys yr ARGLWYDD oedd eu lladd.

26. Ac yr oedd y bachgen Samuel yn dal i gynyddu ac ennill ffafr gyda Duw a'r bobl.

27. Daeth gŵr Duw at Eli a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Oni'm datguddiais fy hun i'th dylwyth pan oeddent yn yr Aifft yn gaethion yn nhŷ Pharo?

28. Fe'u dewisais o holl lwythau Israel i fod yn offeiriaid i mi, i offrymu ar fy allor a llosgi arogldarth a gwisgo effod o'm blaen, a rhoddais i'th dylwyth holl offrymau llosg yr Israeliaid.

29. Pam yr ydych yn llygadu fy aberth a chwennych fy offrwm a orchmynnais, ac anrhydeddu dy feibion yn fwy na mi, a'ch pesgi'ch hunain â'r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel?’

30. Am hynny,” medd ARGLWYDD Dduw Israel, “er yn wir imi ddweud y câi dy linach a'th deulu wasanaethu ger fy mron am byth, yn awr,” medd yr ARGLWYDD, “pell y bo hynny oddi wrthyf, oherwydd y rhai sy'n f'anrhydeddu a anrhydeddaf, a diystyrir fy nirmygwyr.

31. Y mae'r dyddiau ar ddod y torraf i ffwrdd dy nerth di a nerth dy dylwyth, rhag bod un hynafgwr yn dy dŷ.

32. Yna, yn dy gyfyngdra, byddi'n llygadu holl lwyddiant Israel, ond ni fydd henwr yn dy dŷ di byth.

33. Bydd unrhyw un o'r eiddot na fyddaf yn ei dorri i ffwrdd oddi wrth fy allor yn boen llygad ac yn ofid calon iti, a bydd holl blant dy deulu yn dihoeni a marw.

34. Bydd yr hyn a ddigwydd i'th ddau fab, Hoffni a Phinees, yn argoel iti: bydd farw'r ddau yr un diwrnod.

35. Sefydlaf i mi fy hun offeiriad ffyddlon a weithreda yn ôl fy nghalon a'm meddwl; adeiladaf iddo dŷ sicr a bydd yn gwasanaethu gerbron f'eneiniog yn wastadol.

36. A bydd pob un a adewir yn dy dŷ di yn dod i foesymgrymu iddo am ddarn arian neu dorth o fara a dweud, ‘Rho imi unrhyw swydd yn yr offeiriadaeth, imi gael tamaid o fara’.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 2