Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31

Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Gweddi Hanna

1. Gweddïodd Hanna a dweud:“Gorfoleddodd fy nghalon yn yr ARGLWYDD,dyrchafwyd fy mhen yn yr ARGLWYDD.Codaf fy llais yn erbyn fy ngelynion,oherwydd rwy'n llawenhau yn dy iachawdwriaeth.

2. Nid oes sanct fel yr ARGLWYDD,yn wir nid oes neb heblaw tydi,ac nid oes craig fel ein Duw ni.

3. Peidiwch ag amlhau geiriau trahaus,na gadael gair hy o'ch genau;canys Duw sy'n gwybod yw'r ARGLWYDD,ac ef sy'n pwyso gweithredoedd.

4. Dryllir bwâu y cedyrn,ond gwregysir y gwan â nerth.

5. Bydd y porthiannus yn gweithio am eu bara,ond y newynog yn gorffwyso bellach.Planta'r ddi-blant seithwaith,ond dihoeni a wna'r aml ei phlant.

6. Yr ARGLWYDD sy'n lladd ac yn bywhau,yn tynnu i lawr i Sheol ac yn dyrchafu.

7. Yr ARGLWYDD sy'n tlodi ac yn cyfoethogi,yn darostwng a hefyd yn dyrchafu.

8. Y mae'n codi'r gwan o'r llwchac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen,i'w osod i eistedd gyda phendefigionac i etifeddu cadair anrhydedd;canys eiddo'r ARGLWYDD golofnau'r ddaear,ac ef a osododd y byd arnynt.

9. Y mae'n gwarchod camre ei ffyddloniaid,ond y mae'r drygionus yn tewi mewn tywyllwch;canys nid trwy rym y mae trechu.

10. Dryllir y rhai sy'n ymryson â'r ARGLWYDD;tarana o'r nef yn eu herbyn.Yr ARGLWYDD a farna eithafoedd daear;fe rydd nerth i'w frenina dyrchafu pen ei eneiniog.”

11. Yna dychwelodd Elcana adref i Rama, ond yr oedd y bachgen yn gwasanaethu'r ARGLWYDD gerbron yr offeiriad Eli.

Meibion Eli

12. Yr oedd meibion Eli yn wŷr ofer, heb gydnabod yr ARGLWYDD.

13. Arfer yr offeiriaid gyda'r bobl, pan fyddai unrhyw un yn offrymu aberth, oedd hyn: tra oeddent yn berwi'r cig, dôi gwas yr offeiriad gyda fforch deirpig yn ei law

14. a'i tharo i mewn i'r badell, neu'r sosban, neu'r crochan neu'r llestr; yna cymerai'r offeiriad beth bynnag a ddygai'r fforch i fyny. Felly y gwneid yn Seilo gyda'r holl Israeliaid a ddôi yno.

15. Ond dechreuodd gwas yr offeiriad ddod cyn llosgi'r braster hyd yn oed, a dweud wrth y dyn oedd yn offrymu, “Rho gig i'w rostio i'r offeiriad; ni chymer gennyt gig wedi ei ferwi ond cig ffres.”

16. Os dywedai'r dyn, “Gad iddynt o leiaf losgi'r braster yn gyntaf, yna cymer iti beth a fynni,” atebai, “Na, dyro ar unwaith, neu fe'i cymeraf trwy rym.”

17. Yr oedd pechod y llanciau yn fawr iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, oherwydd yr oedd dynion yn ffieiddio offrwm yr ARGLWYDD.

Samuel yn Seilo

18. Yr oedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu gerbron yr ARGLWYDD mewn effod liain.

19. Byddai ei fam yn gwneud mantell fach iddo, ac yn dod â hi iddo bob blwyddyn pan ddôi gyda'i gŵr i offrymu'r aberth blynyddol.

20. A byddai Eli'n bendithio Elcana a'i wraig cyn iddynt fynd adref, ac yn dweud, “Rhodded yr ARGLWYDD blant iti o'r wraig hon yn lle'r un a fenthyciwyd i'r ARGLWYDD.”

21. Ac fe ymwelodd yr ARGLWYDD â Hanna, a beichiogodd a geni tri mab a dwy ferch. Tyfodd y bachgen Samuel yn nhŷ'r ARGLWYDD.

Eli a'i Feibion

22. Pan oedd Eli'n hen iawn, clywodd am y cwbl a wnâi ei feibion drwy Israel gyfan, a'u bod yn gorwedd gyda'r gwragedd oedd yn gweini wrth ddrws pabell y cyfarfod.

23. Dywedodd wrthynt, “Pam y gwnewch bethau fel hyn? Rwy'n clywed gair drwg amdanoch gan y bobl yma i gyd.

24. Na'n wir, fy meibion, nid da yw'r hanes y clywaf bobl Dduw yn ei ledaenu.

25. Os yw un yn pechu yn erbyn rhywun arall, y mae Duw yn ganolwr, ond os pecha rhywun yn erbyn yr ARGLWYDD, at bwy y gellir apelio?” Ond gwrthod gwrando ar eu tad a wnaethant, oherwydd ewyllys yr ARGLWYDD oedd eu lladd.

26. Ac yr oedd y bachgen Samuel yn dal i gynyddu ac ennill ffafr gyda Duw a'r bobl.

Proffwydoliaeth yn erbyn Teulu Eli

27. Daeth gŵr Duw at Eli a dweud wrtho, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Oni'm datguddiais fy hun i'th dylwyth pan oeddent yn yr Aifft yn gaethion yn nhŷ Pharo?

28. Fe'u dewisais o holl lwythau Israel i fod yn offeiriaid i mi, i offrymu ar fy allor a llosgi arogldarth a gwisgo effod o'm blaen, a rhoddais i'th dylwyth holl offrymau llosg yr Israeliaid.

29. Pam yr ydych yn llygadu fy aberth a chwennych fy offrwm a orchmynnais, ac anrhydeddu dy feibion yn fwy na mi, a'ch pesgi'ch hunain â'r gorau o holl offrymau fy mhobl Israel?’

30. Am hynny,” medd ARGLWYDD Dduw Israel, “er yn wir imi ddweud y câi dy linach a'th deulu wasanaethu ger fy mron am byth, yn awr,” medd yr ARGLWYDD, “pell y bo hynny oddi wrthyf, oherwydd y rhai sy'n f'anrhydeddu a anrhydeddaf, a diystyrir fy nirmygwyr.

31. Y mae'r dyddiau ar ddod y torraf i ffwrdd dy nerth di a nerth dy dylwyth, rhag bod un hynafgwr yn dy dŷ.

32. Yna, yn dy gyfyngdra, byddi'n llygadu holl lwyddiant Israel, ond ni fydd henwr yn dy dŷ di byth.

33. Bydd unrhyw un o'r eiddot na fyddaf yn ei dorri i ffwrdd oddi wrth fy allor yn boen llygad ac yn ofid calon iti, a bydd holl blant dy deulu yn dihoeni a marw.

34. Bydd yr hyn a ddigwydd i'th ddau fab, Hoffni a Phinees, yn argoel iti: bydd farw'r ddau yr un diwrnod.

35. Sefydlaf i mi fy hun offeiriad ffyddlon a weithreda yn ôl fy nghalon a'm meddwl; adeiladaf iddo dŷ sicr a bydd yn gwasanaethu gerbron f'eneiniog yn wastadol.

36. A bydd pob un a adewir yn dy dŷ di yn dod i foesymgrymu iddo am ddarn arian neu dorth o fara a dweud, ‘Rho imi unrhyw swydd yn yr offeiriadaeth, imi gael tamaid o fara’.”