Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 2:11-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Yna dychwelodd Elcana adref i Rama, ond yr oedd y bachgen yn gwasanaethu'r ARGLWYDD gerbron yr offeiriad Eli.

12. Yr oedd meibion Eli yn wŷr ofer, heb gydnabod yr ARGLWYDD.

13. Arfer yr offeiriaid gyda'r bobl, pan fyddai unrhyw un yn offrymu aberth, oedd hyn: tra oeddent yn berwi'r cig, dôi gwas yr offeiriad gyda fforch deirpig yn ei law

14. a'i tharo i mewn i'r badell, neu'r sosban, neu'r crochan neu'r llestr; yna cymerai'r offeiriad beth bynnag a ddygai'r fforch i fyny. Felly y gwneid yn Seilo gyda'r holl Israeliaid a ddôi yno.

15. Ond dechreuodd gwas yr offeiriad ddod cyn llosgi'r braster hyd yn oed, a dweud wrth y dyn oedd yn offrymu, “Rho gig i'w rostio i'r offeiriad; ni chymer gennyt gig wedi ei ferwi ond cig ffres.”

16. Os dywedai'r dyn, “Gad iddynt o leiaf losgi'r braster yn gyntaf, yna cymer iti beth a fynni,” atebai, “Na, dyro ar unwaith, neu fe'i cymeraf trwy rym.”

17. Yr oedd pechod y llanciau yn fawr iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, oherwydd yr oedd dynion yn ffieiddio offrwm yr ARGLWYDD.

18. Yr oedd y bachgen Samuel yn gwasanaethu gerbron yr ARGLWYDD mewn effod liain.

19. Byddai ei fam yn gwneud mantell fach iddo, ac yn dod â hi iddo bob blwyddyn pan ddôi gyda'i gŵr i offrymu'r aberth blynyddol.

20. A byddai Eli'n bendithio Elcana a'i wraig cyn iddynt fynd adref, ac yn dweud, “Rhodded yr ARGLWYDD blant iti o'r wraig hon yn lle'r un a fenthyciwyd i'r ARGLWYDD.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 2