Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 2:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gweddïodd Hanna a dweud:“Gorfoleddodd fy nghalon yn yr ARGLWYDD,dyrchafwyd fy mhen yn yr ARGLWYDD.Codaf fy llais yn erbyn fy ngelynion,oherwydd rwy'n llawenhau yn dy iachawdwriaeth.

2. Nid oes sanct fel yr ARGLWYDD,yn wir nid oes neb heblaw tydi,ac nid oes craig fel ein Duw ni.

3. Peidiwch ag amlhau geiriau trahaus,na gadael gair hy o'ch genau;canys Duw sy'n gwybod yw'r ARGLWYDD,ac ef sy'n pwyso gweithredoedd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 2