Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 6:50-70 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

50. Dyma feibion Aaron: Eleasar ei fab, Phinees ei fab yntau, Abisua ei fab yntau,

51. Bucci ei fab yntau, Ussi ei fab yntau, Seraheia ei fab yntau,

52. Meraioth ei fab yntau, Amareia ei fab yntau, Ahitub ei fab yntau,

53. Sadoc ei fab yntau, Ahimaas ei fab yntau.

54. Dyma lle'r oeddent yn byw y tu mewn i ffiniau eu tiriogaeth: i deulu'r Cohathiaid o feibion Aaron (am fod y coelbren wedi syrthio arnynt hwy)

55. rhoesant Hebron yng ngwlad Jwda a'r cytir o'i hamgylch;

56. ond rhoesant feysydd y ddinas a'i phentrefi i Caleb fab Jeffunne.

57. I feibion Aaron fe roesant y dinasoedd noddfa, sef Hebron, Libna, Jattir, Estemoa,

58. Hilen, Debir, Asan,

59. a Beth-semes, pob un gyda'i chytir;

60. Ac o lwyth Benjamin rhoesant Geba, Alemeth ac Anathoth, pob un gyda'i chytir; cyfanswm o dair dinas ar ddeg yn ôl eu teuluoedd.

61. I weddill teuluoedd meibion Cohath rhoesant trwy goelbren ddeg dinas o hanner llwyth Manasse.

62. I feibion Gersom yn ôl eu teuluoedd rhoesant dair ar ddeg o ddinasoedd o lwythau Issachar, Aser, Nafftali, Manasse yn Basan.

63. I feibion Merari yn ôl eu teuluoedd, o lwythau Reuben, Gad, Sabulon, rhoesant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd.

64. Rhoes meibion Israel i'r Lefiaid y dinasoedd hyn, pob un gyda'i chytir.

65. Rhoesant trwy goelbren, o lwythau Jwda, Simeon, a Benjamin, y dinasoedd hyn oedd wedi eu galw ar eu henwau.

66. I rai o deuluoedd y Cohathiaid fe roddwyd dinasoedd o fewn terfyn llwyth Effraim.

67. Rhoesant iddynt ym mynydd-dir Effraim: Sichem, dinas noddfa; Geser,

68. Jocmeam a Beth-horon,

69. Ajalon, Gath-rimmon, pob un gyda'i chytir.

70. Ac o hanner llwyth Manasse rhoddwyd i weddill y Cohathiaid: Aner a Bileam, pob un gyda'i chytir.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 6