Hen Destament

Testament Newydd

1 Cronicl 6:44-63 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

44. Yr oedd eu brodyr, meibion Merari, ar y llaw aswy: Ethan fab Cisi, fab Abdi, fab Maluc,

45. fab Hasabeia, fab Amaseia, fab Hilceia,

46. fab Amsi, fab Bani, fab Samer,

47. fab Mahli, fab Musi, fab Merari, fab Lefi.

48. Yr oedd eu brodyr y Lefiaid yn gyfrifol am holl wasanaeth tabernacl tŷ Dduw.

49. Ond Aaron a'i feibion oedd yn aberthu ar allor y poethoffrwm ac ar allor yr arogldarth, sef holl waith y cysegr sancteiddiaf, ac yn gwneud cymod dros Israel yn union fel y gorchmynnodd Moses gwas Duw.

50. Dyma feibion Aaron: Eleasar ei fab, Phinees ei fab yntau, Abisua ei fab yntau,

51. Bucci ei fab yntau, Ussi ei fab yntau, Seraheia ei fab yntau,

52. Meraioth ei fab yntau, Amareia ei fab yntau, Ahitub ei fab yntau,

53. Sadoc ei fab yntau, Ahimaas ei fab yntau.

54. Dyma lle'r oeddent yn byw y tu mewn i ffiniau eu tiriogaeth: i deulu'r Cohathiaid o feibion Aaron (am fod y coelbren wedi syrthio arnynt hwy)

55. rhoesant Hebron yng ngwlad Jwda a'r cytir o'i hamgylch;

56. ond rhoesant feysydd y ddinas a'i phentrefi i Caleb fab Jeffunne.

57. I feibion Aaron fe roesant y dinasoedd noddfa, sef Hebron, Libna, Jattir, Estemoa,

58. Hilen, Debir, Asan,

59. a Beth-semes, pob un gyda'i chytir;

60. Ac o lwyth Benjamin rhoesant Geba, Alemeth ac Anathoth, pob un gyda'i chytir; cyfanswm o dair dinas ar ddeg yn ôl eu teuluoedd.

61. I weddill teuluoedd meibion Cohath rhoesant trwy goelbren ddeg dinas o hanner llwyth Manasse.

62. I feibion Gersom yn ôl eu teuluoedd rhoesant dair ar ddeg o ddinasoedd o lwythau Issachar, Aser, Nafftali, Manasse yn Basan.

63. I feibion Merari yn ôl eu teuluoedd, o lwythau Reuben, Gad, Sabulon, rhoesant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Cronicl 6