13. Eu brodyr hwy o dŷ eu hynafiaid: Michael, Mesulam, Seba, Jorai, Jacan, Sïa, Heber, saith.
14. Meibion Abihail: Ben-huri, Ben-jaroa, Ben-gilead, Ben-michael, Ben-jesisai, Ben-jahdo, Ben-bus.
15. Ahi fab Abdiel, fab Guni, oedd y penteulu.
16. Yr oeddent hwy yn byw yn Gilead ac ym mhentrefi Basan, a thrwy holl gytir Saron o un terfyn i'r llall.
17. Cafodd y rhain i gyd eu rhestru yn ôl eu hachau yn nyddiau Jotham brenin Jwda a Jeroboam brenin Israel.
18. Ymysg meibion Reuben a'r Gadiaid a hanner llwyth Manasse yr oedd pedair mil a deugain, saith gant a thrigain o wŷr cryfion yn cario tarian a chleddyf ac yn tynnu bwa; yr oeddent wedi dysgu ymladd, ac yn barod i fynd allan i ryfel.
19. Buont yn ymladd yn erbyn yr Hagariaid, Jetur, Neffis, a Nodab.
20. Fe gawsant help yn eu herbyn, a gorchfygu'r Hagariaid a phawb oedd gyda hwy, oherwydd iddynt alw ar Dduw yn y frwydr ac iddo yntau wrando arnynt am eu bod yn ymddiried ynddo.
21. Cymerasant o'u hanifeiliaid yn ysbail: hanner can mil o'u camelod, hanner can mil a dau gant o ddefaid, dwy fil o asynnod, a hefyd can mil o bobl.
22. (Am mai rhyfel Duw oedd hwn, yr oedd llawer wedi marw o'u clwyfau.) A buont yn byw yno yn eu lle hyd gyfnod y gaethglud.
23. Yr oedd hanner llwyth Manasse yn byw yn y tir rhwng Basan, Baal-hermon, Senir a Mynydd Hermon, ac yr oedd llawer ohonynt.
24. Y rhain oedd eu pennau-teuluoedd: Effer, Isi, Eliel, Asriel, Jeremeia, Hodafia, Jadiel; gwŷr blaenllaw ac enwog oedd y pennau-teuluoedd hyn.
25. Ond buont yn anffyddlon i Dduw eu hynafiaid, a phuteinio gyda duwiau pobl y wlad yr oedd Duw wedi eu dinistrio o'u blaenau.