Mae’n gwrando gwaedd pobl am gymorth,Yn gwared y rhai calon-friw.Daw llawer o adfyd i’r cyfiawn,Ond gŵyr fod yr Arglwydd yn driw:Fe geidw’i holl esgyrn yn gyfan,Ond cosbi’r rhai drwg â’i law gref.Gwareda yr Arglwydd ei weisionA phawb sy’n llochesu ynddo ef.