1. Paham (o Dduw) oddiwrthym niy cili yn dragywydd?Paham y digi mor danbaidwrth ddefaid dy borfeydd?
2. Cofia y bobl a brynaist gynt,rhoist iddynt etifeddiaeth,Mynydd Seion, dy breswylfa,i’r rhai’n yn drigfa helaeth.
3. Ymddercha (Arglwydd) taro’n drwm,pob gelyn gorthrwm difaYn dragywydd, a wnaeth na thrais,na dyfais i’th gysegrfa.
4. Dy elynion daethant i’n mysg,rhuasant derfysg greulon:A gosodasant dan gryfhau,fanerau yn arwyddion.
5. Iw cherfio’r saeri gorau gynt,a roesan wynt iw bwiyll.
6. Drylliant i’r llawr gerfiadau honag eirf, gyfeillion erchyll.
7. Llosgasant oll dy eglwys lân,a’i phyrth a thân yn ulw:A halogasant mewn dull dig,y noddfa’y trig dy enw.