5. Fel yr us o flaen gwynt y bon’:Angel yr Ion i’w chwalu:
6. A rhyd ffordd dywyll lithrig lefn,a hwn wrth gefn iw gyrru.
7. Cloddio pwll, a chuddio y rhwyd,a wnaethbwyd ym heb achos:Heb achlysur, maglau a wnaidi’m henaid yn y cyfnos.
8. O deued, cwymped yn ei rwyd,yr hon a guddiwd allan:Syrthied a glyned iw delm rwyll,a’i drapp o’i dwyll ei hunan.
9. Eithr am fy enaid i (Amen)bid llawen yn yr Arglwydd:Fe a fydd hyfryd gantho hyn,lle daw i’r gelyn aflwydd.
10. O Arglwydd dywaid f’esgyrn i,pwy sydd a thi un gyflwr?Rhag ei drech yn gwared y gwan,a’r truan rhag ei ’speiliwr.
11. Tystion gau a godent yn llym,a holent ym’ beth anfad: