1. Pa rai bynnag, yn Nuw yr Ion,sy gyfion, llawenychwch:I bawb ysydd yn iawn yn bywgweddus yw diolchgarwch.
2. A thannau telyn molwch ef,rhowch hyd y nef ogoniant:Ar y nabyl gywair ei thon,ac ar y gyson ddectant.
3. Cenwch i’r Ion fawl a mawrhâd,wiw gerdd o ganiad newydd:Cenwch iddo yn llafar glod,bid parod eich lleferydd.
4. Am mai union ydyw ei air,ffyddlon y cair ei weithred.
5. Cyfiownder a barn ef a’i câr,a’r ddaiar llawn o’i nodded.
6. Gair yr Arglwydd a wnaeth y nef,a’i Yspryd ef eu lluoedd:
7. Casclai efe ynghyd y mor,a’i drysor yw’r dyfnderoedd.
8. Yr holl ddaiar ofned ein Duw,a phob dyn byw a’i preswyl:
9. Ei arch a saif, a’i air a fydd,a hynny sydd i’w ddisgwyl.